fbpx
Gwelwch bob partner

Sefydliad SAFE

Rydym yn elusen fach Gymreig gyda gobeithion mawr, ein nod yw rhoi cyfle cyfartal i bawb yn y byd o ran addysg, iechyd a lles. Cawsom ein cychwyn gan freuddwyd gefeilliaid ac rydym yn byw ymlaen gyda thîm clos. Mae gennym nifer o bartneriaid rhyngwladol lle rydym yn darparu dŵr glân, yn talu athrawon i addysgu’r plant yn y cymunedau hynny ac yn darparu adnoddau i ganiatáu i’r cymunedau ffynnu, megis y ganolfan gymunedol a adeiladwn yn India.

Mae ein prosiectau yn y DU yn darparu datblygiad sgiliau mewn nifer o ffyrdd trwy ein cyfleoedd gwirfoddoli neu ein gweithdai dinasyddiaeth fyd-eang. Gall y rhai sy'n gwirfoddoli cymryd cymaint o ran ag y dymunant; helpu yn y swyddfa i ddod gyda ni i ddigwyddiadau mawr neu wyliau. Mae'r gweithdai yn cynnig ystod eang o ddatblygiad sgiliau a all arwain at gyflogaeth. Maent hefyd yn darparu hyfforddiant a dealltwriaeth o’r foeseg y tu ôl i’r fasnach, er enghraifft, rydym yn cynnig hyfforddiant coffi ymwybodol am ddim lle rydych chi’n dysgu sgiliau barista ac o ble mae coffi’n dod, sut mae’n dod o ffynonellau moesegol a’i werthu, i gael cyfleoedd wedyn i fod yn farista gyda ni yn ystod digwyddiadau amrywiol.

Yn ogystal â rhedeg ein dwy siop elusen yng Nghaerdydd, rydym hefyd yn mynychu neu'n cynnal llawer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Ym mhob digwyddiad rydyn ni'n gallu gwerthu coffi trwy wirfoddolwyr rydyn ni wedi'u hyfforddi ein hunain. Ein nod elusennol yw darparu cyfleoedd cyfartal mewn bywyd i bawb ac rydym yn ymdrechu i adeiladu cymunedau a dysgu oddi wrth ein partneriaethau yn y DU a ledled y byd.

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Sustrans Cymru

Cymorth Cristnogol

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

Cytun – Eglwysi ynghyd yng Nghymru

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.