fbpx
Gwelwch bob partner

Caffi Trwsio Cymru

Mae Caffi Trwsio Cymru yn hwyluso digwyddiadau dros dro, lle gall aelodau o'r gymuned gael eitem o'r cartref wedi'i osod am ddim, er mwyn atal yr eitem honno rhag diweddu fyny mewn safleoedd tirlenwi. Ar hyn o bryd, mae caffis trwsio mewn mwy na 50 o leoliadau ar draws Cymru. Mae Caffi Trwsio Cymru yn cynnig hyfforddiant a chyngor hefyd, i annog cymunedau sydd eisiau gweithio tuag at Economi fwy Cylchol, gan greu diwylliant o atgyweirio ac ailddefnyddio, a mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng cynyddol o dwf anghynaliadwy mewn safleoedd tirlenwi a gwastraff.

“Mae Caffi Trwsio Cymru yn sylweddoli nad yw’n gynaliadwy newid y ddynoliaeth i fod yn gymdeithas wastraffus. Rydym wedi ymrwymo i hwyluso agor caffis atgyweirio ym mhob tref, pentref, dinas a maestref yng Nghymru, ac rydym yn canolbwyntio ein hegni ar adeiladu byd mwy glân a chynaliadwy. Mae ein cymunedau caffis trwsio yn amgylcheddau cynhwysol a diogel i bobl o bob oedran a chefndir i rannu gwybodaeth, sgiliau, ac i gysylltu'n gyffredinol. ”

“Mae galw cynyddol am gaffis trwsio ar draws Cymru, ac mae'r ymateb hwn yn adlewyrchu pryder cynyddol y cyhoedd ynghylch yr argyfwng hinsawdd, ac yn dangos yn gadarnhaol y cymhelliant ymhlith ein cymdeithas i ddod at ei gilydd a chymryd camau ymarferol tuag at ddod o hyd i ateb. Mae Caffi Trwsio Cymru yn gweithio i'n cymunedau i ddylanwadu ar safonau nwyddau a pholisi'r llywodraeth, ac yn casglu data o'n hybiau cymunedol, a helpu i lywio penderfyniadau polisi sy'n hyrwyddo byd mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy.”

Partneriaid eraill

Gweld popeth

Platfform yr Amgylchedd Cymru

Tearfund Cymru

Teach the Future Wales

Crynwyr Arberth

Gweld popeth

Helpwch i lunio ein hymgyrch

Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Dod yn bartner
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.