Cynnes Gaeaf Yma
Mae yna argyfwng costau byw cynyddol, argyfwng ynni, ac argyfwng hinsawdd parhaus.
Mae'r argyfyngau hyn yn gysylltiedig. Maent yn rhannu achosion cyffredin, fel tanwyddau ffosil, sy'n eu gwneud i gyd yn waeth. Maent hefyd yn rhannu atebion a all ein helpu i ddod allan o'r llanast hwn, fel insiwleiddio cartrefi Cymru oll, a buddsoddi mewn ynni cost isel, glân, adnewyddadwy. Mae angen cymorth brys hefyd ar gyfer pobl sy'n dioddef nawr wrth i ni gynyddu datrysiadau.
Cymerwch ran ac arhoswch mewn cyswllt – mae’n rhad ac am ddim, yn hawdd ymuno â’r mudiad hwn dros newid, naill ai fel unigolyn, grŵp neu sefydliad.
Mae Climate Cymru yn glymblaid o dros 300 o sefydliadau Cymreig, a bron i 13,000 o unigolion sydd wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol gwell i Gymru.
Gofynnom i’r rhwydwaith yma ddweud wrthym beth ddylai llywodraethau Cymru a’r DU ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfyngau cyd-gysylltiol yma, a dyma eu gofynion:
- Cefnogaeth frys i aelwydydd bregus
- Rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol
- Cynnydd cyflym mewn ynni adnewyddadwy cost isel
- Rhyddid rhag tanwyddau ffosil
Byddwn yn amlinellu manylion y gofynion yn fuan iawn, ac yn gweithio’n gynhyrchiol gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu o fewn eu pwerau datganoledig i helpu pobl gyda’u dioddefaint uniongyrchol, ac i ddarparu llwybr gwirioneddol i dyfodol gwell. Rhaid i Gymru fod yn feiddgar, ac arwain.
Ymunwch â’r mudiadMae yna ymgyrch ledled y DU sy’n rhannu’r run enw, yr ydym yn cyd-weithredu ag ef, ac yn ei gefnogi, ac sydd â chefnogaeth eang gan sefydliadau gwrth-dlodi ac amgylcheddol – gweler.
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, cofrestrwch i fod yn rhan o’r rhwydwaith, naill ai fel unigolyn, grŵp neu sefydliad, i fod yn yn rhan o lunio dyfodol gwell i Gymru.
Ymunwch â’r mudiadWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.