Grymuso’r bobl – o gyfoeth Cymreig a echdynnwyd i bŵer a rennir
Cyfarfod Ymylol Climate Cymru yng Ngynhadledd Wanwayn Plaid Cymru
ICC Casnewydd 28 o Chwefror 2026, 11:00 – 11:55, Ystafell 3A.
Mae Cymru’n gyfoethog mewn ynni, ond mae’r elw yn aml yn mynd dramor. Mae digwyddiad ymylol Climate Cymru yn herio’r anghyfiawnder hwn, gan anelu at economi lle mae cyfoeth natur yn gwasanaethu ein pobl.
Byddwn yn trafod camau ymarferol i sicrhau annibyniaeth ariannol, gan gynnwys Cronfa Cyfoeth Cymru ac Incwm Ailhyfforddi Gwarantedig i bob gweithiwr. Ein nod yw trosglwyddiad cyfiawn nad yw’n gadael neb ar ôl.
O ynni geothermol mewn hen lofeydd i ddiogelu dyfodol dur Cymru gydag undebau cryf, rhaid i’r rhai a adeiladodd ein gorffennol perchen ar ein dyfodol. Ymunwch â ni i drafod sut i gadw diwydiannau a ffyniant yng Nghymru.
Sarah Rees
Mae Sarah Rees yn ymgyrchydd ymroddedig dros gyfiawnder, cydraddoldeb, a Chymru sy’n rhoi pobl yn gyntaf. Wedi’i llywio gan brofiad personol o dlodi a gwahaniaethu, mae gwleidyddiaeth Sarah wedi’i gwreiddio yn y gred bod rhaid i arweinyddiaeth fod yn seiliedig ar dosturi, dewrder, a dealltwriaeth o’r byd go iawn. O gyfiawnder rhywedd a hawliau gweithwyr i daclo’r argyfwng hinsawdd ac adeiladu gweledigaeth ar gyfer economi llesiant, mae ymgyrchu Sarah yn adlewyrchu cred gadarn mewn dyfodol tecach i Gymru. Mae hi’n sefyll yn yr etholiad i sicrhau bod gan Pen-y-bont a Bro Morgannwg lais sy’n gwrando, yn arwain, ac yn cyflawni, a bod Cymru wir yn gweithio i bawb.
Jason Wyatt
Mae Jason Wyatt yn beiriannydd trydanol yn Tata Steel ym Mhort Talbot ac yn gynrychiolydd gweithle i undeb Unite. Ar ôl gweithio yn y diwydiant dur ers gadael yr ysgol, mae’n ymroddedig i gynrychioli ei gyd-weithwyr ac eirioli dros eu hawliau o fewn y diwydiant.
Bethan Sayed
Mae Bethan Sayed yn gyn-Aelod o’r Senedd dros Ranbarth Gorllewin De Cymru. Gwasanaethodd am 15 mlynedd gan ymgyrchu ar faterion fel hawliau gweithwyr a buddsoddi mewn swyddi lleol. Bu’n Gadeirydd ar Wales Against Open Cast Mining a Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd. Ers sefyll i lawr, mae Bethan wedi gwneud gwaith llawrydd i’r cyfryngau, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a BBC Cymru. Bellach, hi yw Pennaeth Gwleidyddiaeth ac Eiriolaeth Climate Cymru.
Anthony Collins
Saer yw Anthony Collins wrth ei alwedigaeth, ond newidiodd ei yrfa i ymroi ei fywyd gwaith i ddod ag oes y tanwyddau ffosil i ben. Ar ôl chwe mis yn gweithio yn yr Antarctig, deallodd ddifrifoldeb yr her hinsawdd. Ers hynny, mae ei waith eiriolaeth wedi bod yn ddylanwadol yn Canberra, Perth, San Steffan a nawr yn y Senedd, yn ei rôl fel Arweinydd Polisi gyda’r Coal Action Network. Yn y rôl hon, mae’n gweithio i ddod ag echdynnu glo newydd i ben yng Nghymru a Lloegr, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar gyfleoedd etifeddiaeth mwyngloddiau glo, megis rhwydweithiau gwres dŵr mwyngloddiau.
Dyfan Lewis
Dyfan Lewis yw Swyddog Cyfathrebu Ynni Cymunedol Cymru, mudiad sy’n gweithio i sicrhau bod perchnogaeth a rheolaeth gymunedol wrth wraidd ynni.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.