fbpx

Newid hinsawdd a natur Cymru

Sut mae natur Gymraeg yn ymateb i newid yn yr hinsawdd, a sut y gall fod yn rhan o'r ateb.

Teimlo’r effeithiau

Mae natur yng Nghymru eisoes yn teimlo effeithiau newid yn yr hinsawdd ac, wrth i amser fynd yn ei flaen, bydd yn cael ei deimlo’n gryfach fyth.

Bydd rhai rhywogaethau’n elwa, a byddwn yn gweld rhywogaethau newydd yn cyrraedd Cymru wrth iddynt symud yma o ardaloedd y mae newidiadau yn effeithio arnynt ymhellach i’r de.

Ond mae newidiadau yn amseriad y tymhorau yn golygu bod ffynonellau bwyd bellach yn annibynadwy, neu allan o sync â’r rhywogaethau sy’n dibynnu arnynt.

Bydd rhywogaethau a chynefinoedd yn dioddef hefyd, wrth i ni brofi glawiad llai aml ond trymach. Rydym eisoes yn gweld tywydd eithafol yn fwy aml, sydd yn arwain at y llifogydd rydym wedi’u gweld yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal â dinistrio rhannau o’n trefi a’n dinasoedd, mae hyn yn cael effaith sylweddol ar fywyd gwyllt.

""

Natur fel ateb

Ond er bod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar natur, mae’n gallu bod yn rhan o’r ateb hefyd – gan ein helpu i fynd i’r afael â’i effeithiau ac addasu i’r newidiadau a ddaw yn ei sgil.

Gall adfer a chreu cynefinoedd fel mawndiroedd, coetiroedd a morfeydd heli gyflwyno nifer o fanteision.

Mae llawer o’r cynefinoedd hyn wedi cael eu diraddio ar hyn o bryd, gan achosi i fwy o garbon gael ei ryddhau i’r atmosffer.

Yn aml, maen nhw hefyd wedi cael eu rhannu’n ardaloedd cymharol fach. Mae eu hailgysylltu yn gallu gwella eu gwydnwch i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd. Mae’n caniatáu hefyd, i boblogaethau bywyd gwyllt ddod yn fwy cydlynus, ac yn cynyddu eu gallu i addasu i’r hinsawdd sy’n newid.

Adfer cynefinoedd

Mae cynefinoedd sydd wedi’u hadfer yn gallu eu hatal rhag gollwng carbon i’r atmosffer, ac maen nhw’n dechrau ei ddal a’i storio yn lle hynny, gan leddfu’r allyriadau niweidiol sydd yn cael eu cynhyrchu gan ein gweithgareddau.

Mae mawndiroedd wedi’u hadfer a choetiroedd mewn lleoliad da yn gallu helpu i leihau’r perygl o lifogydd yn dilyn digwyddiadau glaw trwm mwy rheolaidd hefyd, tra gall morfeydd heli wedi’u hadfer a chynefinoedd arfordirol eraill weithredu fel amddiffyniad rhag llifogydd yn erbyn y cynnydd yn nifer y stormydd a lefelau’r môr yn codi.

Daw manteision iechyd a lles hefyd yn sgil adfer a chreu’r cynefinoedd hyn, gan eu bod yn darparu mynediad i fannau gwyrdd cyfoethog ac amrywiol i ni eu mwynhau.

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegwch eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.