Anfonwch neges i’n harweinwyr
Dywedwch wrth ein harweinwyr i ddiogelu'r Gymru a garwn rhag yr argyfwng hinsawdd a natur.
Os gallwn gasglu 10,000 o leisiau, byddwn yn anfon calon enfawr wedi'i gwneud o iâ i'r Senedd i ddangos yn union pa mor bwysig yw hyn i ni.
Dangoswch i’n harweinwyr yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.


Ymgyrchu am y pethau rydyn ni’n eu caru
Mae ein hinsawdd a’n byd naturiol mewn argyfwng, ac mae hyn yn bygwth ein cymunedau, ein ffyrdd o fyw, a’n lleoedd Cymreig hardd.
Ym mis Tachwedd eleni, bydd arweinwyr y byd yn ymgynnull yn Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, i benderfynu ar y camau nesaf yng nghais y ddynoliaeth i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae’n gyfle gwirioneddol i greu dyfodol gwell i’n cymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae gobaith. Ond mae angen i ni sicrhau bod ein harweinwyr yn gwybod yn union pa mor bwysig yw hyn i ni.
Ein cenhadaeth10,000 o leisiau
Ein huchelgais yw casglu 50,000 o leisiau gan bobl Cymru cyn yr uwchgynhadledd, gan ddechrau gyda 10,000 erbyn yr haf. Byddwn yn anfon neges at ein harweinwyr – rydym eisiau cael ymrwymiadau cryf ac ystyrlon i ddiogelu’r pethau rydym yn eu caru, ac i greu dyfodol gwell i bob un ohonom.
Ychwanegwch eich llais














Y cwis hinsawdd mawr
Y cwis hinsawdd mawr
Rhesymau i fod yn obeithiol
Rhesymau i fod yn obeithiol
Straeon diweddaraf
Gweld popeth
Swydd wag: Rheolwr Ymgyrch

Awr Ddaear – Dod ynghyd dros ddyfodol gwell i natur, yr hinsawdd a phobl
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegwch eich llais
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.