fbpx

Pwerir gan bobl, arweinir gan y mudiad

Anita Henman Cartwright (hi/ei), Pennaeth Arloesi Cyllid

Mae Anita yn entrepreneur cymdeithasol a strategydd profiadol, sy’n angerddol am bontio cyfiawn i economi lles yng Nghymru. Gyda chefndir mewn ymgynghori rheolaeth, mae hi wedi datblygu prosiectau economi a chymunedol sylfaenol, gan arwain ceisiadau llwyddiannus o fentrau ar lawr gwlad i raglenni rhanbarthol gwerth miliynau. Mae ei phrofiad amrywiol yn cynnwys mentora ar gyfer Busnes Cymdeithasol Cymru, gwasanaethu fel Cynghorydd Sir Powys, a dylunio platfform digidol arloesol ar gyfer rhannu sgiliau a arweinir gan y gymuned. Mae Anita yn dilyn ALM (Gradd Meistr) mewn Cynaliadwyedd o Harvard ac mae ganddi PGCert mewn Rheoli Adnoddau Naturiol ac Ecosystemau Cynaliadwy.

Benjamin Rwizibuka (ef/ei), Cydlynydd Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig

Mae Benjamin yn wreiddiol o Bukavu, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ac mae ganddo radd baglor mewn Cynhyrchu Cnydau. Ar hyn o bryd mae’n dilyn gradd meistr mewn Amaethgoedwigaeth a Diogelwch Bwyd ym Mhrifysgol Bangor (2025). Mae gan Benjamin brofiad proffesiynol gyda sefydliadau ymchwil rhyngwladol a chwmnïau preifat, gan gynnwys y Sefydliad Rhyngwladol Amaethyddiaeth Drofannol a RISEF SARL, mewn rolau fel swyddog meithrin gallu, cynorthwyydd ymchwil, a goruchwyliwr gwerthuso llinell derfynol. Mae’n angerddol am amaethyddiaeth gynaliadwy a diogelwch bwyd, ac mae’n gwirfoddoli gyda Climate Cymru, lle mae’n gwasanaethu ar y Grŵp Cynghori ac yn arwain fel Cydlynydd Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru. Mae Benjamin yn ymroddedig i ymhelaethu ar leisiau amrywiol a gyrru gweithredu cydweithredol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.

Bethan Sayed (hi/ei), Pennaeth Gwleidyddiaeth ac Eiriolaeth

Mae Bethan yn rhan o’r tîm gwleidyddiaeth ac eiriolaeth ac mae wedi gweithio gyda Climate Cymru yn flaenorol ar yr ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma. Mae hi’n gyn-Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, a hi oedd y fenyw ieuengaf a etholwyd i’r Senedd. Mae hi’n eiriolwr balch dros hawliau menywod ac ymgysylltu â’r gymuned mewn gwleidyddiaeth, ac ymgyrchoedd ar gyfiawnder amgylcheddol. Cadeiriodd Gymru yn erbyn Castio Agored tra yn y Senedd, ac ymgynnull gymunedau i frwydro dros adferiad. Mae hi wedi gwneud gwaith dylanwadu gwleidyddol gyda sefydliadau fel Oxfam Cymru, ac wedi arwain gweithdai ledled Cymru ar sut mae’r Senedd yn gweithredu. Mae Bethan yn athrawes nofio, ac yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau’r gampfa, teithio, a threulio amser gyda’i mab mewn canolfanau chwarae meddal a ffermydd! 

Clare James (hi/ei), Cydlynydd Rhwydwaith

Mae Clare yn goruchwylio rhwydwaith Climate Cymru, gan gynnwys partneriaid, gwirfoddolwyr a llysgenhadon, gyda ffocws ar arallgyfeirio’r mudiad. Wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector amgylcheddol, mae’n anelu at frwydro yn erbyn tlodi ac amddiffyn y blaned. Fel ymarferydd ymchwil gweithredu cyfranogol achrededig, mae Clare wedi arwain prosiectau cydweithredol gyda sefydliadau llawr gwlad, cyrff anllywodraethol, corfforaethau a sefydliadau academaidd. Bu’n gweithio am dros 15 mlynedd yn y sector tai a digartrefedd ac yn ddiweddarach, yn Techniquest.

Paul Graham (ef/ei), Gwirfoddolwr

Dechreuodd Paul wirfoddoli gyda Climate Cymru yn 2021 ac mae wedi aros gyda ni ers hynny, yn aml yn arwain ar ddatblygiad mewnol a strategaeth yn ogystal ag estyn allan at bartneriaid newydd a darpar bartneriaid. Yn fwy diweddar daeth yn hwylusydd Climate Fresk ac yn aml gellir dod o hyd iddo yn yr awyr agored yn arwain Deep Time Walks.

Sali Moses Nichols (hi/nhw), Cynorthwyydd a Chyfieithydd

Mae Sali yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn ieithydd angerddol, hyfedr mewn chwech iaith. Mae ei hastudiaethau a’i phrofiadau wedi mynd â hi ar draws Ewrop ac, yn ddiweddar, i’r Yucatán, Mecsico, lle bu’n dysgu Saesneg. Gyda gwerthfawrogiad dwfn o’r cysylltiad rhwng iaith, diwylliant a hunaniaeth, mae wedi ymrwymo i ymhelaethu ar leisiau ledled Cymru a thu hwnt. Mae hi wedi gwneud ymchwil helaeth ar y cysylltiad rhwng newid hinsawdd a cholled iaith ymhlith cymunedau Brodorol, gan eirioli dros gyfiawnder amgylcheddol brys. Gan gyfuno ei sgiliau amlieithog â safbwynt byd-eang, mae’n ymdrechu i feithrin cynwysoldeb a sbarduno newid ystyrlon.

Sam Ward (ef/ei), Pennaeth Climate Cymru

Roedd gyrfa gynnar Sam yn seiliedig â’r awyr agored, byd natur a phobl, pan oedd yn rheoli cwmnïau a oedd yn arbenigo mewn hyfforddi a chael pobl allan i fyd natur. Hyfforddodd dîm cenedlaethol Prydain i dros 30 o fedalau mewn cystadlaethau rhyngwladol, gan gystadlu ei hun ar lefel ryngwladol am nifer o flynyddoedd yn ei ddisgyblaeth ddewisol o gaiacio dŵr gwyn. Mae Sam wastad wedi bod yn ymwneud â mentrau cymdeithasol, mentrau amgylcheddol, elusennau, ac ymgyrchoedd eiriolaeth amgylcheddol. Bu’n gweithio fel ymgynghorydd cynaliadwyedd, a rheolwr rhaglen ar gyfer prosiectau amgylcheddol a chadwraeth, a chyd-sefydlodd y Gynghrair Bioamrywiaeth, yn Uganda gan weithio ar atebion wedi’u harwain gan y gymuned i’r argyfwng bioamrywiaeth. Mae Sam nawr yn treulio ei holl oriau gwaith yn rhedeg Climate Cymru!

Stanley Townsend (ef/ei), Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth

Mae Stan yn arbenigwr polisi hinsawdd, sydd â phrofiad o gynghori arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae wedi gweithio ar draws nifer o feysydd polisi ar gyfer Llywodraeth y DU, megis yr economi gylchol, strategaeth sero net, cyllid gwyrdd, ac roedd hefyd yn drafodwr i broses hinsawdd y Cenhedloedd Unedig lle cynrychiolodd y DU mewn dwy COP. Dychwelodd i Gymru i ymgymryd â rôl fel Ysgrifennydd Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru, y gofynnwyd iddo gan Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru archwilio llwybrau uchelgeisiol, cyfiawn ar gyfer Cymru wydn a llewyrchus. Y thu hwnt i gynghori arweinwyr gwleidyddol, angerdd Stan yw adeiladu asiantaeth ddinesig o fewn y cyhoedd yng Nghymru i ymateb i heriau cymdeithasol fel newid yn yr hinsawdd, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn mathau newydd o ddemocratiaeth. Os nad yw’n gweithio, mae’n debyg y byddwch chi’n ei weld yn reidio ei feic yng nghymoedd De Cymru neu’n syrffio yng Ngŵyr.

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.