fbpx

Taith Werdd o Gymru 2024, gan Adebayo Adetunji

Roedd Adebayo yn un o'r wyth gwirfoddolwr anhygoel a ymunodd â ni ar y Daith Werdd eleni. Darllenwch beth sydd ganddo i'w ddweud am y daith isod.

Taith Werdd o Gymru 2024, gan Adebayo Adetunji

Roedd Wythnos Fawr Werdd 2024 yn daith anhygoel, o ran y milltiroedd a deithwyd a’r gwersi gwerthfawr a ddysgwyd am gynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol. Roedd thema eleni, “Gadewch i ni gyfnewid gyda’n gilydd, am y gorau” yn atgof pwerus o’r rôl y gall pob un ohonom ei chwarae mewn lleihau gwastraff a lliniaru effeithiau newid hinsawdd byd-eang. Mae’r syniad y tu ôl i’r thema yn syml ond yn ddwys: trwy gyfnewid gwybodaeth, gwasanaethau neu nwyddau, gallwn atal gwastraff a chadw eitemau rhag diweddu fyny mewn safleoedd tirlenwi ac yn sgil hynny, cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. 

Er mwyn cyd-fynd â’r thema cynaliadwyedd, teithiodd y tîm mewn cerbyd trydan, gan leihau ein hôl troed carbon a hyrwyddo’r defnydd o ynni glân.

Dechreuodd y daith yn Abertawe, lle cychwynnodd y tîm ar daith a fyddai yn y pen draw, yn dod â ni yn ôl i Stryd y Pier, Canolfan Amgylchedd Abertawe.

Stop 1: Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru

Y stop cyntaf ar fy nhaith oedd yng Nghymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Yma, cymerais ran mewn gweithdy, a oedd yn canolbwyntio ar gymryd camau tuag at frwydro yn erbyn newid hinsawdd byd-eang. Roedd y trafodaethau’n ddiddorol, gyda’r cyfranogwyr yn rhannu eu safbwyntiau unigryw ar sut y gall cymunedau weithio gyda’i gilydd i gael effaith amlwg. Fe wnaethom archwilio camau ymarferol mewn perthynas â lleihau gwastraff, diogelu ynni, a hyrwyddo arferion cynaliadwy

Stop 2: Ysgol Gynradd Hirael

Nesaf, symudodd y daith i Ysgol Gynradd Hirael, lle cynhaliodd y tîm weithdy o’r enw Imagine Action  gyda myfyrwyr Blwyddyn 5 a 6. Roedd y sesiwn hon yn arbennig o ysbrydoledig gan ei bod yn ceisio creu ymdeimlad o gyfrifoldeb a gobaith yn y genhedlaeth iau. Roedd y myfyrwyr yn awyddus i ddysgu a chymryd rhan, ac roedd yn galonogol gweld eu brwdfrydedd dros gynaliadwyedd amgylcheddol. Trwy eu cynnwys mewn trafodaethau am weithredu ar yr hinsawdd, roeddem yn ceisio eu grymuso i fod yn arweinwyr y dyfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Stop 3: Caernarfon Lân

Parhaodd ein taith i Gaernarfon Lân, lle gwnaethom leisio ein barn i gefnogi cyfiawnder amgylcheddol. Mae’r gymuned leol yma yn gwrthwynebu adeiladu ffatri brig wedi’i bweru gan nwy a chyfleuster concrit, y maen nhw’n credu a fydd nid yn unig yn cynyddu eu biliau ynni ond hefyd, yn eu gwneud yn ddibynnol ar danwydd ffosil am flynyddoedd i ddod. Mae’r gymuned yn ofni y bydd y datblygiadau hyn yn niweidiol i’w hiechyd a’u lles. Roedd sefyll gyda nhw i wrthwynebu hyn yn atgof teimladwy o bwysigrwydd gweithredu ar lawr gwlad i ysgogi newid amgylcheddol.

Stop 4: Canolfan y Dechnoleg Amgen, Llwyngwern

Yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen yn Llwyngwern, y genhadaeth oedd i ysbrydoli, hysbysu, a galluogi dynoliaeth i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae’r ganolfan yn cynnig gobaith a thrwy amrywiol brosiectau arloesol, yn dangos sut y gellir byw’n gynaliadwy. Roedd yr ymweliad yn addysgiadol ac yn ysgogol, ac yn atgyfnerthu pwysigrwydd technoleg ac arferion cynaliadwy wrth fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu.

Stop 5: Ysgol Dolbadarn

Yna, aeth y daith â ni i Ysgol Dolbadarn, lle cynhaliwyd gweithdy arall gyda’r nod o ysbrydoli myfyrwyr i weithredu i warchod a diogelu’r amgylchedd. Canolbwyntiodd y gweithdy ar ymdrechion adfer ac ar y pwysigrwydd o roi gobaith i’n planed. Fe wnaethom orffen y sesiwn gyda rhywfaint o amser segur, ble cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau darlunio a phaentio, a oedd yn caniatáu iddynt fynegi eu barn yn greadigol am newid hinsawdd.

Stop 6: Cymuned Dyffryn Ogwen 

Un o rannau mwyaf dylanwadol y daith oedd ein hymweliad â chymuned Dyffryn Ogwen. Mae’r gymuned hon yn enghraifft wych o beth y gall gweithredu ar y cyd ei gyflawni. Maen nhw wedi adeiladu eu ffatri ynni adnewyddadwy eu hunain, gan gynhyrchu pŵer i’w ddefnyddio’n lleol a lleihau eu hôl troed carbon. Mae’r gymuned wedi datblygu cynllun gweithredu hefyd i fynd i’r afael â newid hinsawdd, sy’n cynnwys uwchsgilio’r gweithlu lleol, lleihau costau i breswylwyr, a darparu cyfleoedd addysgol am yr argyfwng hinsawdd. Mae eu llwyddiant yn dyst i bŵer mentrau sy’n cael eu hysgogi gan y gymuned i greu newid parhaol.

Stop 7: Grŵp Tyfwyr Graigfechan 

Daeth fy nhaith i ben gydag ymweliad a Grŵp  Tyfwyr Graigfechan. Mae’r grŵp hwn o dyfwyr yn gwneud gwaith rhyfeddol yn cefnogi ymdrechion newid hinsawdd a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol.  Maen nhw’n tyfu eu bwyd a’u llysiau eu hunain mewn modd ecogyfeillgar, ac wedi ymrwymo i beidio â gwastraffu bwyd.  Mae unrhyw gynnyrch dros ben yn cael ei roi i elusennau a chymunedau lleol, gan sicrhau nad oes dim yn mynd yn wastraff. Mae eu gwaith yn cynnwys ysbryd y thema “Gadewch i ni newid am y gorau”, ac yn dangos sut y gall ymdrechion bach, lleol gael effaith sylweddol ar y frwydr fyd-eang yn erbyn newid hinsawdd. 

Roeddwn yn drist iawn i ffarwelio â’r tîm wrth iddynt wneud eu ffordd i Aberhonddu a Fferm Langton. 

Casgliad

Roedd taith Wythnos Fawr Werdd 2024 yn brofiad addysgiadol dros ben.  Roedd yn dangos y pŵer o weithredu ar y cyd, pwysigrwydd addysg wrth ysgogi newid, a’r rôl hanfodol y mae pob un ohonom yn ei chwarae yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.  O weithdai ac ymgysylltiadau cymunedol i brosiectau arloesol a gweithredu ar lawr gwlad, tynnodd y daith sylw at y ffyrdd niferus y gall pob un  ohonom gyfrannu at greu dyfodol mwy cynaliadwy. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda Climate Cymru ar y daith hon, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i eiriol dros gyfiawnder amgylcheddol a chynaliadwyedd yn y blynyddoedd i ddod.

Hoffech chi wirfoddoli gyda Climate Cymru? 

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.