Senedd 2026
Cymru Yfory, Climate Cymru: Ein Glasbrint ar gyfer Cymru decach, wedi’i siapio gan y bobl.
Saif Cymru ar groesffordd.
Ar adeg pan fo’r argyfwng costau byw yn gwthio teuluoedd yn ddyfnach i dlodi, mae’n hawdd teimlo wedi eich llethu. Ond nid yw’r argyfyngau hinsawdd a natur yn broblemau ar wahân, mae ganddynt gysylltiad dwfn â’r biliau uchel, iechyd gwael, a’r ansicrwydd a wynebwn bob dydd.
Mae Climate Cymru, mudiad o miloedd o bobl a 400 o sefydliadau, yn cynnig gweledigaeth glir: cyfnod pontio glân a chyfiawn sy’n cyflawni i bawb.
Mae’r glasbrint hwn, sydd wedi ei gyd greu gan bartneriaid yn ein rhwydwaith, sydd yn cael ei gyhoeddi cyn etholiadau’r Senedd yn 2026, yn dangos sut y gall gweithredu ar yr hinsawdd fod yn sylfaen i Gymru well. Rydym yn mynnu dyfodol lle:
- Rydych yn talu llai ac yn arbed ynni: Cynllun ‘retrofit’ tai enfawr a gwres lleol, fforddiadwy i ddileu tlodi tanwydd (Thema 4).
- Swyddi diogel i’r dyfodol: Swyddi newydd, medrus wedi’u creu’n lleol, gan sicrhau pontio urddasol i gymunedau diwydiannol (Thema 5).
- Rheolaeth leol: Mae cymunedau’n ennill perchnogaeth a dylanwad dros ynni, bwyd a thir trwy Gynulliadau Dinasyddion (Thema 2).
- Mae eich teulu’n iachach: Gwarantir aer a dŵr glanach trwy gysylltu data iechyd â llygredd a chryfhau diogelu’r amgylchedd (Thema 3).
Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru fabwysiadu’r polisïau beiddgar hyn sy’n canolbwyntio ar bobl er mwyn adeiladu cenedl lanach, decach a mwy ffyniannus.
Gweler y brif ddogfen a’r ddogfen gryno.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.