Eiriolaeth Lefel Cyngor
Mae gan gynghorau ddylanwad enfawr ar weithredu yn yr hinsawdd ar lefel leol, o blannu coed i ailwylltio, i osod seilwaith gwyrdd newydd. Mae un ar bymtheg o ddau ar hugain o gynghorau yng Nghymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, ond mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos nad oes prinder brys ar gynlluniau ar draws y wlad.
Yma, mae gennym restr o adnoddau sy'n ceisio eich helpu i fonitro, pwyso a chefnogi gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, ar lefel cyngor.

Pwyllgor Newid Hinsawdd
- Mae’r chweched Cyllideb Garbon yn cyfyngu ar faint o nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu hallyrru dros gyfnod o 5 mlynedd rhwng 2033 a 2037, gan fynd y DU yn fwy na thri chwarter y ffordd I gyrraedd net sero erbyn 2050. Dim ond os yw cynghorau a’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd y gellir cyflawni hyn.
- Chweched Cyllideb Carbon ac Awdurdodau Lleol – Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sut y gellid gwneud hyn, ac y dylid ei wneud.
Llywodraeth Cymru
- Mae ‘Llwybr tuag at Net Sero’ Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yn rhoi trosolwg strategol o’r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu a cherrig milltir sydd eu hangen ar sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr net sero erbyn 2030.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cadwchy yn hysbys am y wybodaeth ddiweddaraf am Gynlluniau Gweithredu Datgarboneiddio Awdurdodau Lleol. Oes un gan eich cyngor chi? Ydynt at y safon ddisgwyliedig? Mynnwch hwy yn atebol
Agyfwng Hinsawdd y DU
- Methodoleg ar gyfer asesu holl gynghorau y DU ar y camau y maent yn eu cymryd tuag at net sero ac a gyhoeddwyd fel Cardiau Sgorio Gweithredu Hinsawdd y Cyngor.
Canolfan Dechnoleg Amgen (CAT)
- Cyfres o argymhellion i helpu i gyflawni Net Sero a mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd sydd wedi’i ddatgan gan fwy na 330 allan o 409 o gynghorau y DU.
- Hwb Adnoddau sy’n darparu ysbrydoliaeth, offer, adroddiadau, arweiniad, hyfforddiant, webinarau a mwy, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, i gefnogi gweithredu ar net sero.
Cyfeillion y Ddaear
- Ymgyrch i gael cynghorau i droi eu haddewidion gwleidyddol yn gamau pendant trwy fabwysiadu cynllun gweithredu hinsawdd i gefnogi bod argyfyngau hinsawdd wedi datgan. Mae’r offeryn hwn yn dweud wrthych ym mha feysydd y mae eich cyngor yn eu cyflawni ar newid yn yr hinsawdd.
- Rhestr o 33 o gamau allweddol y gall eich cyngor eu cymryd, o ôl-osod eiddo cyngor, i fabwysiadu polisïau gwastraff economi gylchol. A yw eich cyngor yn eu cymryd nhw? Os na, pam ddim?
- Cyfres o adnoddau a ddarperir gan y Tîm Materion Cyhoeddus i helpu eglwysi a chymunedau i mynnu cynghorau yn atebol dros eu cynlluniau gweithredu ar newid hinsawdd.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.