Lobi Dorfol Gweithredwch Nawr am y Dyfodol
Beth sy’n digwydd?
Mae hwn yn wahoddiad i ymuno â phobl, grwpiau a sefydliadau ledled Cymru sy’n dod at eu gilydd i wthio am ddyfodol iachach, tecach a mwy diogel fel rhan o’r lobïo torfol ‘Gweithredwch Nawr, am y Dyfodol’ yng Nghaerdydd ar 17 Medi.
Mae pobl ledled Cymru eisoes yn gweithio am ddyfodol gwell – gwella trafnidiaeth gyhoeddus, adfer natur, creu swyddi gwyrdd, a gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn iachach. Ond i wneud newid go iawn, parhaol, mae angen eich cefnogaeth arnom. Mae Climate Cymru yn cynnal y fan hon i drefnu gweithredu ar y cyd:
- Ar degwch: Dychmygwch Gymru lle mae pob cartref yn gynnes ac yn effeithlon, lle mae mwy o’n hegni yn eiddo i’r gymuned, a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl – p’un a ydynt yn byw ym Mhort Talbot neu Brestatyn. Mae pontio gwirioneddol gyfiawn yn golygu edrych allan yn ogystal ag i mewn, cefnogi pobl ledled Cymru a sefyll mewn undod â’r rhai sy’n wynebu’r effeithiau hinsawdd llymaf yn fyd-eang.
- Ar gyllid: Dychmygwch Gymru lle mae arian yn llifo i’r lle mae ei angen fwyaf, lle gall cynghorau gefnogi syniadau lleol, a buddsoddiad yn cyrraedd y rheng flaen, o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Fairbourne i ddiogelwch bwyd yng Nglynrhedynog.
- Ar adfer a gwytnwch: Dychmygwch Gymru lle mae natur yn cael ei alluogi i adfer yn iawn ar y tir ac yn y môr, lle mae gwlyptiroedd yn arafu llifogydd, coetiroedd yn oeri ein trefi, a chefnogaeth ffermwyr i dyfu bwyd iach mewn ffyrdd sy’n gwarchod natur ac yn cadw cymunedau gwledig yn gryf. O gaeau Sir y Fflint i lethrau Eryri, mae cymunedau’n ffynnu pan fydd natur yn ffynnu.
Sut allwch chi weithredu?
- Cofrestrwch eich presenoldeb, ac arhoswch yn y drafodaeth!
- Cadwch y dyddiad – Dydd Mercher 17 Medi
- Rhowch eich cod post i ddod o hyd i gyfeiriad e-bost eich MS yn: https://senedd.wales/find-a-member-of-the-senedd
- Rhowch wybod i’ch Aelodau o’r Senedd eich bod yn dod, gan ddefnyddio’r ddolen yma
- Rhannwch eich cynlluniau gyda’ch ffrindiau neu’ch cymuned a’u hannog i gofrestru hefyd , gan ddefnyddio’r asedau cyfathrebu ar y wefan hon (gweler adnoddau)
- Cadwch lygad am fwy o ddiweddariadau yn fuan, a dilynwch @climatecymru
Adnoddau
Ble?
Bydd pobl yn cwrdd â’u Aelodau o’r Senedd ddydd Mercher yr 17eg o Fedi yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd rhwng 9.30am a 4pm.
Bydd gweithgareddau cyffrous eraill ar y diwrnod. Daliwch sylw am fwy o wybodaeth!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: actnow@climate.cymru
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.