Ymgyrchu yng Nghymru dros Gytundeb Tanwydd Ffosil
Gadwch i ni sicrhaus dyfodol di-ffosil
Mae corfforaethau tanwydd ffosil yn gwneud biliynau o bunnoedd drwy gynnal a chadw’r argyfwng hinsawdd ac mae’n debyg bod ein harweinwyr yn malio dim. Bydd parhad yr anhrefn hinsawdd yn effeithio arnon ni i gyd. Ond mae cynllun ymadael byd-eang o lo, olew a nwy yn ennill tir. Byddai’r cynllun hwn yn dod â’r oes tanwydd ffosil i ben mewn ffordd gyflym a theg.
Mae Climate Cymru yn cefnogi dyfodol di-ffosil.
Mae trychinebau hinsawdd yn berygl cynyddol i bob un ohonon ni. Mae tanwydd ffosil wedi achosi bron i 90% o allyriadau carbon. Mae angen i ni ddod â’r oes tanwydd ffosil i ben, yn deg ac am byth. Mae gan grŵp cynyddol o arbenigwyr, ASau ac ymgyrchwyr gynllun.
A ydych chi wedi cysylltu â’ch MS neu gyngor ynghylch yr alwad am Gytundeb Atal Amlhau Tanwydd Ffosil eto? Os na, mae digon i’w wneud o hyd. Mae’r ymgyrch yn gwneud cynnydd mawr, ond mae angen i bob Aelod Seneddol a chynghorydd yng Nghymru glywed gan eu hetholwyr am y cynnig beiddgar hwn i derfynu yn raddol danwydd ffosil yn fyd-eang, cyflym, teg, sydd wedi’i reoli’n dda.
Ymunwch â’r cyfarfod Cymru-gyfan: Cysylltwch â Daisy Pearson yn Global Justice Now i gael y cyswllt cyfarfod.
AdnoddauWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.