Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar bob un ohonom, ac rydym i gyd yn haeddu llais yn yr hyn sy’n digwydd nesaf. Daw ein partneriaid o bob rhan o gymdeithas sifil Cymru a thu hwnt a, gyda’n gilydd, rydym yn llais amrywiol a phwerus ar gyfer y Gymru fodern.
Daw cryfder ein hymgyrch o'n hamrywiaeth - y bobl a'r achosion yr ydym yn eu cynrychioli. Os ydych yn sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghymru, a’ch bod yn meddwl ein bod yn colli persbectif pwysig, yna cysylltwch â ni a dewch yn rhan o’r mudiad.
“Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau newid trawsnewidiol, ond dim ond os byddwn yn gwrando ar heriau, gobeithion a syniadau pobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt. ”
Susie Ventris-Field, Cydlynydd Ymgyrchu Climate Cymru