Yn Climate Cymru rydym yn hynod falch o’n strwythur cydweithredol “gwastad” a’n proses gwneud penderfyniadau. Sefydlwyd rhaglen Llysgenhadon Climate Cymru yn 2021 i roi ffordd i unigolion o unrhyw gefndir, sydd ddim yn cynrychioli sefydliad, gymryd rhan lawn yn ein gwaith.
Os hoffech ddod yn Llysgennad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cytuno â’n hegwyddorion ac e-bostiwch helo@climate.cymru. Bydd rhywun yn cysylltu â chi i’ch croesawu.
Gall llysgenhadon gael mynediad i’n holl rwydweithiau, gofodau drefnu, gweithgareddau a chyfleoedd gwirfoddoli. Gofynnwn i Lysgenhadon rannu ein diweddariadau a negeseuon cyfryngau cymdeithasol i’w rhwydweithiau eu hunain, ac ymateb i geisiadau penodol achlysurol i gymryd rhan yn ein gwaith.
Os bydd Llysgenhadon yn manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli, bydd gofyn iddynt gwblhau sesiwn sefydlu byr i wirfoddolwyr.
“Drwy ddod â phobl o'r un anian ynghyd o bob oed a chefndir o bob rhan o Gymru, sydd â'r un nod, mae gan rwydwaith Climate Cymru siawns wirioneddol o greu newid cadarnhaol i'n gwlad.”