Gweithgorau a threfnu gofodau Climate Cymru
Rhwydwaith mawr o sefydliadau ac unigolion yw Climate Cymru, sy’n cymryd rhan yn ein cyfarfodydd a’n gweithgareddau yn rheolaidd. gall nifer y grwpiau ymddangos yn frawychus felly cymerwch olwg ar y wybodaeth isod i ddeall strwythur Climate Cymru, ble rydych chi’n ffitio i mewn a’ch pwynt cyswllt.
Beth nesaf?
Os ydych chi wedi ymuno â’r rhwydwaith, byddwch eisoes wedi ymrwymo i’n gwerthoedd a’n hegwyddorion ac os hoffech glywed am ein hanes a sut rydym yn gweithio gyda’n partneriaid, gallwch wylio’r fideo pum munud hwn. Os nad ydych chi eisoes yn rhan o’r mudiad ac eisiau sgwrsio, cysylltwch â helo@climate.cymru neu gyda’r aelod perthnasol o’r tîm.
Peidiwch ag anghofio ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook – Instagram – X – LinkedIn – TikTok
Partneriaid Climate Cymru
Mae rhwydwaith Climate Cymru yn cyfarfod ar-lein ar ail ddydd Iau y mis, rhwng 12-1pm. Mae croeso i bartneriaid, busnesau, llysgenhadon a gwirfoddolwyr rannu diweddariadau, cymryd rhan mewn ymgyrchoedd, a chlywed gan siaradwyr gwadd. Mae diweddariadau pwysig yn cael eu hanfon trwy’r rhestr bostio hon, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi arni. I wneud cais i ddod yn bartner, llenwch y ffurflen hon neu cysylltwch â clare@climate.cymru am sgwrs anffurfiol, heb rwymedigaeth. Mae’r grŵp yn cyfathrebu trwy Zoom ac e-bost.
Gwirfoddolwyr Climate Cymru
Ymunwch â thîm Climate Cymru a gwirfoddolwyr eraill i ddatblygu sgiliau newydd, cysylltu â phobl o’r un anian, a bod yn rhan o gymuned sy’n gweithio tuag at yr un nod. Dysgwch fwy am wirfoddoli, ac os ydych chi’n meddwl yr hoffech chi roi cynnig arni, llenwch y ffurflen gais i wirfoddolwyr, a bydd rhywun yn cysylltu â chi. Mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod ar ddydd Mawrth am 1pm ar Zoom, ac yn cyfathrebu trwy grŵp WhatsApp a thrwy e-bost. Cysylltwch â Vanessa@climate.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol heb rwymedigaeth.
Llysgenhadon Climate Cymru
Yn ogystal â chael mynediad at ein cyfarfodydd rhwydwaith a’n cyfleoedd, mae llysgenhadon yn rhannu ein diweddariadau a’n negeseuon cyfryngau cymdeithasol gyda rhwydweithiau eu hunain ac weithiau, yn ymateb i geisiadau penodol. Mae Llysgenhadon yn gallu cymryd rhan ym mhob agwedd ar waith Climate Cymru, ac yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd gwirfoddolwyr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â clare@climate.cymru.
Grŵp Cynghori
Mae’r grŵp cynghori yn grŵp gwneud penderfyniadau strategol sy’n llywio ac yn goruchwylio gwaith Climate Cymru. Mae cyfranogwyr yn cael y cyfle i lunio gwaith yn y dyfodol, arbenigo mewn maes penodol, neu fod yn rhan gyffredinol o’r grŵp. Rydym yn croesawu aelodau newydd. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â sam@climate.cymru Mae’r grŵp yn cyfathrebu trwy Zoom a rhestr e-bost.
Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru
Mae’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid yn fenter ddemocrataidd, dan arweiniad ieuenctid, sy’n rhoi llais a chyfleoedd i bobl ifanc rhwng 13 a 25 oed, sydd wedi’u lleoli ar draws Cymru, i weithredu ar yr hinsawdd. Mae Climate Cymru yn hwyluso ac yn cefnogi’r Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid. Fodd bynnag, mae’r holl benderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud gan aelodau, gan gynnwys grŵp cynghori, sy’n eistedd ochr yn ochr â’r Llysgenhadon Hinsawdd ieuenctid ac sy’n agored i bob person ifanc yng Nghymru. Os hoffech gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at michaela@climate.cymru. Mae’r grŵp yn cyfathrebu trwy gyfarfodydd ar-lein bob wythnos, trwy gyfrwng WhatsApp a thrwy e-bost.
Grŵp Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang
Nod y grŵp hwn ydy cyflymu gweithredu dros gyfiawnder hinsawdd byd-eang, a sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau cysylltiedig, datblygu polisi ac ymgyrchoedd. Mae’r grŵp yn cyfarfod ar ddydd Iau cyntaf y mis. Cysylltwch â Michaela michaela@climate.cymru os hoffech fwy o wybodaeth. Mae’r grŵp yn cyfathrebu trwy gyfarfodydd ar-lein a thrwy e-bost.
Grŵp Ethnig Lleiafrifol Climate Cymru (CCEM)
Mae’r grŵp yn darparu llwyfan ar gyfer unigolion a gweithwyr amgylcheddol proffesiynol o darddiad ethnig lleiafrifol sydd yn byw yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn adeiladu eu rhwydwaith mewn eiriol dros yr hinsawdd o amgylch cyfiawnder hinsawdd a materion cysylltiedig. Mae’r CCEM yn cyfathrebu trwy WhatsApp a grwpiau e-byst google.
Cysylltu: climatecymruethnicminorities@gmail.com
Yr Hwb Polisi
Mae’r grŵp polisi yn cael ei ddiweddaru trwy WhatsApp a rhestr e-bost. Os ydych wedi ymuno â’r mudiad yn barod ac eisiau cymryd rhan mewn materion polisi hinsawdd a natur, gwleidyddiaeth ac eiriolaeth yng Nghymru, cysylltwch â sam@climate.cymru i gael gwybod mwy.
Yr Hwb Cyfathrebu
Os ydych chi wedi ymuno â’r mudiad ac eisiau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cyfathrebu strategol diweddaraf yng Nghymru, hyrwyddo eich momentau allweddol, a dysgu a chydweithio, yna dyma’r grŵp i chi. Dyma hefyd y gofod i drefnu ar gyfer ein menter Imagine Action newydd. Cysylltwch â communications@climate.cymru i gael eich ychwanegu at y grŵp WhatsApp a’r rhestr e-bost.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.