fbpx

Ein cenhadaeth

Mae Climate Cymru yn fudiad cynyddol o gannoedd o sefydliadau o bob sector yn y gymdeithas yng Nghymru, a miloedd o unigolion a grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru.  Ein cenhadaeth ydy adeiladu dyfodol gwell. 

Ein cenhadaeth

Mor gyflym â phosibl:   

  • Cymru sero net
  • Cymru natur-bositif
  • Cyfiawnder hinsawdd yng Nghymru ac yn rhyngwladol 
  • Y Gymdeithas yng Nghymru i gofleidio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Dylai’r newid i gyflawni’r nodau hyn fod yn gyfiawn ac yn deg, gan roi ystyriaeth briodol i amrywiaeth lleisiau ac anghenion pobl Cymru ac yn fwy cyffredinol, y rhai mwyaf agored i niwed ar draws y byd.

Campaigning together for the things we love

Climate Cymru is an active network of nearly 300 organisations from every sector in Welsh society, and a movement of over 13,000 individuals from across Wales, who are concerned about climate change.

Our networks span all backgrounds, sectors, and corners of Wales and we’re inviting you to join us too.

Ein hegwyddorion

Mae ein mudiad yn rhychwantu grwpiau o ddiddordeb o bob cefndir, sector a chornel o Gymru, ond mae’n cael ei ddwyn ynghyd gan ein hegwyddorion sylfaenol, y mae pob unigolyn, grwp, a sefydliad partner yn cytuno iddynt wrth ymuno:

Rydym yn cydnabod bod angen gweithredu’n deg ac ar frys mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd a natur.  Rydym yn credu y dylai gweithredu gael ei arwain gan wyddoniaeth a lleisiau pobl ar draws Cymru. 

Mae sefydliadau hefyd yn cytuno i’r 5 ffordd o weithio, a 7 nod deddf cenedlaethau’r dyfodol.

Ein dull gweithredu

  • Mae mudiad Climate Cymru yn cael ei arwain gan grŵp cynghori, sydd wedi’i ffurfio o bartneriaid. 
  • Mae cyd-gynhyrchu a chymryd rhan mewn pob penderfyniad mawr lle bynnag y bo modd yn cael ei groesawu!
  • Mae tîm bach o staff a gwirfoddolwyr yn cyflawni llawer o waith Climate Cymru, gyda chefnogaeth partneriaid lle bynnag y bo modd. 
  • Mae Climate Cymru yn cael ei gynnal gan un o’n partneriaid, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
  • Rydym yn gweithredu’n ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg wrthl gyfathrebu’n allanol.
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.