Ymunwch â'r symudiad
Mae hwn yn fath newydd o symudiad. Symudiad sy’n rhychwantu cymdeithas Cymru – prifysgolion, busnesau, undebau, elusennau, ysgolion, sefydliadau ffydd, sefydliadau, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol, a dinasyddion pryderus.
Rydym yn galw am newid, ond hefyd yn gweithio'n gynhyrchiol gyda'n gilydd ar gyfer dyfodol gwell.
Mae'n rhad ac am ddim ac yn hawdd ymuno, ac mae'n hyblyg faint, neu ychydig, rydych chi'n ymgysylltu wrth symud ymlaen.
Unigolion
A ydych chi’n pryderu am yr hyn sy’n digwydd i’n hinsawdd ac i fyd natur? Yn rhwystredig am y diffyg brys? Eisiau bod yn rhan o adeiladu cymdeithas gwell ar gyfer ein hunain a chenedlaethau’r dyfodol?
Mae gennym bob math o opsiynau ar gyfer unigolion, yn amrywio o weithredu ar-lein syml, i fod yn rhan gwreiddiol o dîm sy’n ganolog i drawsnewid cymdeithas Cymru er gwell.
Darganfod mwy…Ysgolion
Mae pobl ifanc wedi chwarae rhan ganolog yn Climate Cymru ers y dechrau, nhw sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu, a nhw sydd â’r mwyaf yn y fantol.
Mae gan addysg botensial unigryw i ysbrydoli a thrawsnewid, rydym yn gobeithio y gall ysgolion Climate Cymru ddysgu sgiliau bod yn ddinasyddion gweithgar i ddisgyblion, a’u grymuso i gymryd rhan yn eu dyfodol eu hunain.
Darganfod mwy…Cymdeithas Sific
Mae cannoedd o sefydliadau cymdeithas sific yn y rhwydwaith eisoes, gydag ystod eang o feysydd diddordeb – o hawliau dynol i sicrwydd bwyd, i cadwraeth gostau byw. Mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio arnom ni i gyd, ac mae pob maes diddordeb yn haeddu llais yn yr hyn sy’n digwydd nesaf. Gall unrhyw fath o sefydliad cymdeithas sifil ymuno.
Mae cydweithredu effeithiol yn gwneud pob sefydliad yn gryfach, a’r alwad ar y cyd am weithredu yn fwy pwerus. Gyda’n gilydd, rydym yn llais amrywiol a phwerus ar gyfer y Gymru fodern.
Darganfod mwy…
Busnesau
Mae gan fusnesau rôl hollbwysig yn y gwaith o drawsnewid ein cymdeithasau. Mae gan gwmnïau’r dyfodol werthoedd sy’n cynnwys pobl a’r blaned.
Mae’r rhwydwaith hwn yn gyfle i ymestyn ar draws y gymdeithas ac i ddweud wrth ein harweinwyr beth mae newid hinsawdd yn ei olygu i’ch busnes, a pa gamau sydd eu hangen arnoch chi ganddynt i ddatgloi eich potensial i fod yn rhan hanfodol o’r ateb.
Darganfod mwy…Grwpiau Cymunedol
Gall fod yn anodd gwybod sut i wneud gwahaniaeth, neu sut i fod yn rhan o ysgogi’r newid ehangach sydd ei angen ar ein cymdeithas.
Mae Climate Cymru yn gweithio i sicrhau bod lleisiau pobl yng Nghymru yn cael eu clywed gan arweinwyr. Mae cymunedau wrth galon ein gwaith ac mae gan hyd yn oed y grwpiau lleol lleiaf yr un llais o fewn ein rhwydwaith â’r sefydliadau, busnesau neu elusennau mwyaf.
Rydym yn cynnig y cyfle i’ch grŵp chwarae rhan weithredol wrth lunio ein dyfodol cyfunol.
Find out more...
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.