Gwirfoddolwch gyda ni!
Gallwch chi wneud gwahaniaeth
Mae gwirfoddoli gyda Climate Cymru yn gyfle unigryw i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Trwy weithio gyda thîm ymroddedig o arbenigwyr amgylcheddol, gallwch ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ym maes newid hinsawdd a chynaliadwyedd. Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau newydd, cysylltu â phobl o’r un anian, a bod yn rhan o gymuned sy’n gweithio tuag at nod cyffredin. Edrychwch ar y cyfleoedd sydd gennym a helpwch ni i frwydro yn erbyn newid hinsawdd!
Cyfleoedd Gwirfoddoli
Mae cyfleoedd i weithio gyda ni yn amrywiol ac rydym bob amser yn ceisio paru eich sgiliau, diddordebau a phrofiad gyda rhywbeth gwerthfawr. Dyma ychydig o enghreifftiau
- Tyfu ein rhwydwaith partner
- Sicrhau ansawdd ein dwyieithrwydd
- Cynhyrchu graffeg digidol
- Cynnal a chadw presenoldeb digidol Climate Cymru (gwefan a chyfryngau cymdeithasol)
Rydym hefyd bob amser angen pobl ar lawr gwlad i gefnogi ein digwyddiadau a’n hymgyrchoedd, felly cysylltwch â ni am sgwrs heb rwymedigaeth.
Sut mae’n gweithio
Fyddai unrhyw faint o gyfraniad amser yn anhygoel – hyd yn oed os mai dim ond 1 awr y mis ydyw. Llenwch y ffurflen isod, ac ar ôl i chi ei chyflwyno, byddwn yn estyn allan ac yn trafod pa fath o wirfoddoli rydych chi am fod yn rhan ohono, faint o amser y gallwch chi ei roi, a beth allwch chi ei ddisgwyl.
Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a Saesneg!
Join Us Here
Joe:
‘Rwyf wrth fy modd yn gallu rhoi fy sgiliau i ddefnydd da gyda Climate Cymru. Rwy’n dysgu llawer o sgiliau newydd hefyd!’
Anastasia
‘Rwy’n teimlo’n gryf iawn y gallwn ni i gyd chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae gwirfoddoli gyda Climate Cymru yn golygu y gallaf wneud fy rhan’
Ellie:
Join Us HereRwyf wedi cyfarfod â phobl anhygoel yn Climate Cymru a gallaf ffitio gwirfoddoli o amgylch fy ymrwymiadau eraill
Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.