Mae ein llysgenhadon Hinsawdd Cymru yn angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Maen nhw’n mynd â’n hymgyrch i gymunedau ar draws Cymru, ac yn dechrau sgyrsiau am yr hinsawdd a’r argyfwng natur, ac yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan.
Mae ein llysgenhadon yn dod o bob cefndir, ac mae gan bob un ohonynt eu persbectif eu hunain ar yr hyn sydd ei angen arnom gan ein harweinwyr. Maen nhw’n rhannu’r awydd i ddefnyddio eu llais i sicrhau y gallwch ddefnyddio eich llais chi.
“Drwy ddod â phobl o’r un anian, o bob oedran a chefndir o bob rhan o Gymru at ei gilydd, mae gan rwydwaith Hinsawdd Cymru gyfle gwirioneddol i greu newid cadarnhaol i'n gwlad.”
Ellie
Ymuno â’r mudiad
Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.