Gwnewch hyn yn fusnes i chi
Mae gan bob un ohonom ran yn yr hyn sy’n digwydd nesaf, ac rydym i gyd yn haeddu llais.
Dyma eich cyfle i ddweud wrth ein harweinwyr beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’ch busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegwch eich busnesMynd â Chymru i Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig
P’un a ydych yn gorfforaeth ryngwladol, yn fusnes annibynnol bach, neu’n unrhyw beth yn y canol, mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar bob un ohonom.
Rhaid i’r Llywodraeth wybod yn union pa mor bwysig yw hyn i ni. Ac mae angen iddyn nhw wybod beth sydd ei angen ar fusnesau, fel y gall pob busnes chwarae rhan lawn wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
“Rydym yn hapus i wneud y newidiadau sydd angen i ni eu gwneud fel busnes, ond mae angen fframwaith polisi arnom gan ein harweinwyr, i sicrhau ein bod i gyd yn symud yn yr un cyfeiriad.”
Dan Sargent, Cyfarwyddwr Creadigol, Blue Stag
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ffurflen agoredWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.