fbpx

Ein Heffaith

Dod yn bartner

“I ni, mae bod yn rhan o rwydwaith sy'n gwneud pethau ledled Cymru yw hanfod Climate Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni, a’n lleisiau, yn uwch ac yn gryfach. ”

Daniel, Campaigner, Coal Action Network

Ein Heffaith

Ers i ni ffurfio yn 2021, mae rhwydwaith Climate Cymru wedi cael effaith sylweddol i roi hinsawdd, natur a chyfiawnder cymdeithasol ar yr agenda gwleidyddol yng Nghymru. Fel rhwydwaith mawr ac amrywiol, rydyn ni wedii:

  • Mynd â 13,000 o leisiau i uwchgynhadledd hinsawdd COP26 i wneud yn siŵr bod arweinwyr y byd yn gwrando ar ofynion pobl ledled Cymru.
  • Cael cefnogaeth unfrydol yn y Senedd i’n hymgyrch Cymru Gynnes Gaeaf Yma i fynd i’r afael â chostau byw, ynni, a’r argyfwng hinsawdd.
  • Rhoi Cymru Natur Bositif ar yr agenda gwleidyddol, gyda’r llythyr agored mwyaf erioed i Lywodraeth Cymru ei dderbyn, a sicrhau ymrwymiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyflwyno deddfau ar gyfer llywodraethu amgylcheddol cryf a thargedau adfer natur. 
  • Ymgyrchu’n llwyddiannus i Lywodraeth Cymru greu datblygwr ynni adnewyddadwy sy’n eiddo cyhoeddus i Gymru.
  • Sicrhau bod y Rhaglen Cartrefi Clyd, sef rhaglen tlodi tanwydd ac uwchraddio cartrefi Llywodraeth Cymru, yn mynd i’r afael ag anghenion y rhai mwyaf agored i niwed ac yn blaenoriaethu technolegau carbon isel.
  • Ymgyrchu’n llwyddiannus i Lywodraeth Cymru weithredu ar addewid i lansio Ynni Cymru, menter i gyflymu ynni cymunedol ledled Cymru.
  • Sbarduno’r Senedd i lansio ymchwiliad i’r sgandal mesuryddion rhagdalu, gan roi cyfle i Aelodau Seneddol groesholi penaethiaid cwmnïau ynni.
  • Ymgyrchu’n llwyddiannus i ostwng pris trydan i bobl ar fesuryddion rhagdalu, gan fod llawer ohonynt yw’r tlotaf a’r mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
  • Helpu i gau pwll glo brig mwyaf y DU ym Merthyr, drwy gefnogi ac ehangu ymgyrch y gymuned.
  • Sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth costau byw i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd, gyda’r cymorth yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i gefnogaeth llywodraeth y DU.
  • Ymgyrchu’n llwyddiannus dros fwy o ofal plant di-dâl i deuluoedd yng Nghymru, gan arwain at gyhoeddi refeniw ychwanegol o £10 miliwn yn 2023-24.

Proses Ymgeisio

I ymuno â rhwydwaith Climate Cymru, llenwch ein ffurflen gais.

Os ydych eisoes yn bartner, cysylltwch â helo@climate.cymru i drafod eich cyfraniad aelodaeth.

Pwrpas y ffurflen gais yw er mwyn i ni allu deall mwy am eich cymhellion dros ymuno â’r rhwydwaith a meysydd diddordeb eich sefydliad.

Yna bydd eich cais yn cael ei rannu gyda’n grŵp cynghori, wedyn ei drafod yn ystof eu cyfarfod misol nesaf. Yna, byddwch yn cael gwybod am eu penderfyniad trwy e-bost. Ac eithrio mewn amgylchiadau anarferol, dylai ceisiadau gymryd hyd at fis i gytuno arnynt.

Gwneud cais nawr
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.