Helpwch eich disgyblion i annog gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru ac ar draws y byd
Ym mis Tachwedd, bydd y byd yn dod ynghyd yn Uwchgynhadledd Hinsawdd (COP26) y Cenhedloedd Unedig i bennu’r camau nesaf yng nghynnig dynoliaeth i osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd.
Bydd Climate Cymru yn mynd â lleisiau o Gymru i COP26 ac mewn ffordd adeiladol, yn sicrhau y cânt eu clywed gan bobl mewn pŵer. Byddwn yn rhoi sylw i ysgolion Climate Cymru a lleisiau disgyblion ar wefan Climate Cymru, yn COP26 ac yn ein sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Dyma gyfle i’ch pobl ifanc ddweud wrth ein harweinwyr pa weithredu dros yr hinsawdd yr hoffent ei weld ac ymgysylltu’n ystyrlon â’r broses ddemocrataidd.
Ychwanegu eich dosbarth




Gweithgaredd diweddaraf
Ydy eich ysgol yn gweithredu dros yr hinsawdd? Cymerwch ran.
Mae plant ysgol ar draws Cymru yn gweithredu ar yr hinsawdd. Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich ysgol, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich ysgol
Ysgol Dinas Brân - Wythnos Werdd Fawr
Yn ystod yr Wythnos Werdd Fawr, cymerodd 1100 o ddisgyblion yn Ysgol Dinas Brân ran mewn cyfres o ddigwyddiadau i baratoi ar gyfer COP26.
Mae’r ysgol wedi gwneud llawer o newidiadau i gynyddu ei gynaliadwyedd, rhai yn syml ac ac eraill yn fawr iawn!
Cynhaliwyd gweithgareddau yn y dosbarth ac eraill tu allan. Croesawwyd siaradwyr gwadd gan gynnwys Llyr Gruffydd AS (Plaid Cymru) Rhanbarth Gogledd Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Ken Skates AS (Llafur) Etholaeth De Clwyd a Simon Baynes AS (Ceidwadol) Etholaeth De Clwyd.
Gwnaeth gwaith y myfyrwyr a’r ysgol gael argraff da ar y tri wrth weithio i leihau eu hôl troed carbon ac i annog eraill i weithredu i atal effeithiau newid hinsawdd.
Mae disgyblion yn gweithio ar addewidion unigol a chyfunol i weithredu. Bydd gwaith a wneir gan y disgyblion yn cael eu harddangos yn yr ysgol a gobeithio ei rannu ymhell!

Ysgol Gynradd Westwood ymweliad gan Maint Cymru
Fel rhan o baratoadau COP26, cafodd Ysgol Gynradd Westwood ymweliad gan Maint Cymru, lle gwnaeth plant ym Mlwyddyn 6 eu haddewidion i’r hinsawdd.
Myfyriodd y disgyblion a’r staff ar Newid Hinsawdd gan addo cymryd camau cyn COP26. Cafodd plant wers ragorol hefyd, gan ddysgu braslunio Tim Tom o lyfr Tim Tom and the Rainforest.
Darganfyddwch fwy am y hyn y gwnaethon nhw yma.

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.