Safe Online Space Cymru
Yn Safe Online Space Cymru, credwn fod yn rhaid i weithredu hinsawdd fod yn gynhwysol, yn deg ac wedi'i wreiddio mewn gwerthoedd gymuned. Mae ein gwaith yn grymuso cymunedau lleiafrifoedd ethnig a difreintiedig ledled Cymru drwy gynhwysiant digidol, cymorth llesiant, a mynediad at gyflogaeth gynaliadwy, a thrwy hynny greu llwybrau allan o dlodi a thuag at newid parhaol.
Rydym yn cydnabod bod newid hinsawdd nid yn unig yn fater amgylcheddol ond hefyd yn her cyfiawnder cymdeithasol. Mae llawer o'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi yn gwynebu rhwystrau fel allgáu digidol, mynediad cyfyngedig at gyfleoedd gwyrdd, a thangynrychiolaeth wrth wneud penderfyniadau. Drwy ymuno â mudiad Climate Cymru, ein nod yw pontio'r bylchau hyn drwy sicrhau bod gan bob gymuned lais a rôl wrth lunio dyfodol gwyrddach Cymru.
Trwy'r bartneriaeth hon, byddwn yn ymhelaethu ar leisiau amrywiol, yn meithrin arweinyddiaeth gymunedol, ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r hinsawdd mewn ffyrdd sy'n ystyrlon ac yn hygyrch. Gyda'n gilydd, gallwn gyd-greu atebion sy'n adlewyrchu profiadau pawb yng Nghymru.
Ein neges: Mae gweithredu hinsawdd go iawn yn dechrau pan fydd pawb wedi'u cynnwys. Mae Safe Online Space Cymru yn falch o sefyll gyda Climate Cymru wrth adeiladu Cymru lle mae cydraddoldeb, gwytnwch a chynaliadwyedd yn mynd law yn llaw.
Partneriaid eraill
Gweld popeth
Ramblers Cymru

Deryn

Rhwydwaith Economi Gylchol Caerdydd

Soil Association Cymru
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartner
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.