Anfonwch neges at ein harweinwyr
Mae angen i'n harweinwyr weithredu mewn ffordd ystyrlon i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn gwneud hynny.
Mae eich llais chi yn ychwanegu grym at yr ymgyrch. Os byddwch yn dweud wrthym beth rydych chi'n poeni amdano fwyaf, bydd eich neges yn helpu i lunio'r hyn rydym yn ei ofyn gan ein harweinwyr.
Dangoswch i’n harweinwyr pa mor bwysig yw hyn i chi
Mae ein hinsawdd a’n byd naturiol mewn argyfwng, ac mae hyn yn bygwth ein cymunedau, ein ffyrdd o fyw, a’n lleoedd Cymreig hardd.
Mae 2021 yn cynnig gobaith am ddyfodol gwell. Ym mis Tachwedd, bydd arweinwyr y byd yn ymgynnull ar gyfer Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, gyda dyfodol ein cymunedau yn eu dwylo. Mae angen i ni ddangos iddyn nhw pa mor bwysig yw hyn i ni.
Ychwanegwch eich llais i ddweud wrth ein harweinwyr ein bod ni eisiau gweld gweithredu cryf ac ystyrlon i ddiogelu’r pethau rydym yn eu caru.
Ychwanegwch eich llais
Tuag at ein targed o 10,000We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.