Fuel Poverty Action
Mae 'Fuel Poverty Action' yn grŵp o bobl gyffredin sydd wedi cael llond bol ar gael eu lladrata gan gwmnïau ynni barus drwy filiau sy’n codi’n aruthrol, a chan landlordiaid sy’n rhentu cartrefi llaith ac oer heb inswleiddio priodol na systemau gwresogi fforddiadwy. Rydym yn herio cwmnïau ynni sy’n gwneud elw gormodol a pholisïau annheg sy’n gadael pobl i ddioddef mewn cartrefi oer a llaith.
Ochr yn ochr ag undebau llafur, grwpiau pensiynwyr, ymgyrchwyr anabl, sefydliadau tenantiaid ac eraill ar rheng flaen tlodi tanwydd, rydym yn defnyddio protestiadau a gweithredu uniongyrchol i frwydro dros gartrefi cynnes wedi eu hinswleiddio’n dda ac ynni glân a fforddiadwy—o dan reolaeth pobl a chymunedau, nid cwmnïau preifat.
Rydym yn gwybod bod yna ddigon o arian, a digon o bŵer trydan hefyd. Maen nhw ddim ond yn cael eu gwastraffu neu eu meddiannu gan y cyfoethog a buddiannau corfforaethol.
Mae FPA yn cael ei arwain gan ein haelodau—grŵp amrywiol sy’n tyfu o bobl o bob oed a chefndir. Mae gennym hefyd lawer o gefnogwyr sy’n hyrwyddo ein hymgyrchoedd ac yn cadw mewn cysylltiad drwy ein rhestr bostio, ynghyd â thîm bach o staff datganoledig.
Partneriaid eraill
Gweld popeth
Ffilm Cymru Wales

Association of Sustainability Practitioners (ASP)

Methodist Church Wales Synod

Celf Canolbarth Cymru
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartner
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.