Mae Gweithredu ar Lefel Leol yn Arwain at Effaith Fawr, meddai Elusen Hinsawdd y DU


Mae Gweithredu ar Lefel Leol yn Arwain at Effaith Fawr, meddai Elusen Hinsawdd y DU
Mae ymgyrch newydd Carbon Copy, mewn partneriaeth â WWF-UK, The Carbon Literacy Project a Climate Emergency UK, yn tynnu sylw at y potensial anhygoel o weithredu ar lefel leol ar yr hinsawdd a natur yn 2025.
Mae ymgyrch ar y cyd, dan arweiniad yr elusen Carbon Copy, ac sydd yn cael ei hariannu gan dri sefydliad proffil uchel sydd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd a natur, yn anelu at hybu gobaith, ysbrydoliaeth a gweithredu seiliedig ar le i liniaru newid hinsawdd ac i addasu iddo. Trwy gydol 2025, bydd Carbon Copy yn tynnu sylw at “25 o Gamau Gweithredu Mawr ar Lefel Leol” y gall pobl eu cymryd gyda’i gilydd, yn y gwaith neu yn eu cymuned, i gael mwy o effaith yn y lle maen nhw’n byw.
Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan gasgliad cenedlaethol sylweddol o fil o straeon ar weithredu ar yr hinsawdd, sydd wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Carbon Copy gan sefydliadau o bob sector ac o bob rhan o’r DU, sy’n dangos ymhellach effaith y 25 o gamau gweithredu mawr hyn ar lefel leol. Yn sgil yr ymgyrch newydd hon yn 2025, mae Carbon Copy a’i sefydliadau partner yn gobeithio symud pobl o gael eu hysbrydoli, i weithredu, drwy ddarparu canllaw ymarferol a chyfeirio pobl at adnoddau hanfodol.
Meddai Ymddiriedolwr Carbon Copy, Ric Casale:
“Rydyn ni’n gwybod bod pobl ar draws y DU yn gwneud cymaint gyda’i gilydd yn barod i fynd i’r afael â materion mawr fel newid hinsawdd, dirywiad natur a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’r nifer enfawr o straeon rydyn ni wedi’u cyhoeddi yn arwydd go iawn fod gobaith o hyd: bod pŵer mewn cydweithio, a bod pŵer mewn gwneud hynny’n lleol. Mae’r mathau o gamau rydym yn tynnu sylw atynt yn cyflwyno newid go iawn – nid yn unig o ran lleihau allyriadau, ond o ran adeiladu cymunedau cryfach, gwella iechyd a lles, ac o ran dod â boddhad go iawn i fywydau pobl.
“Rydym wedi bod yn archwilio beth allai’r effaith bosib fod o gael mwy o bobl i gymryd y 25 o Gamau Gweithredu Mawr hyn ar Lefel Leol – ac mae ein canfyddiadau’n rhyfeddol. Does dim angen i ni aros am bolisi cenedlaethol; mae gennym yr atebion a’r pŵer yn barod i wneud gwahaniaeth go iawn nawr, ar lefel leol. Gyda’r ymgyrch hon, rydym eisiau cydnabod y gwaith sydd yn digwydd yn barod, ac annog mwy o gydweithio, mwy o arloesi a gweithredu mwy fyth dros yr hinsawdd a natur ar draws y DU.”
Mae’r 25 o gamau gweithredu yn cael eu rhannu’n saith thema eang: Adeiladau a Lleoedd, Economi Gylchol, Bwyd ac Amaethyddiaeth, Pwerau Lleol, Natur, Ynni Adnewyddadwy a Thrafnidiaeth. Mae Ric yn esbonio hyn:
“Mae gweithredu ar yr hinsawdd yn cael ei wneud ar sawl ffurf, ac rydym yn gwybod y bydd rhai pynciau yn apelio at rai pobl yn fwy nag eraill. Trwy drafod 25 o wahanol gamau gweithredu ar draws saith thema, mae rhywbeth yma i bawb. Rydym yn gwahodd pobl i ddewis dim ond un sy’n eu hysbrydoli i wneud rhywbeth mwy, drwy gydweithio ag eraill yn y lle ble maen nhw’n byw neu’n gweithio ynddo.”
Mae sefydliadau partner, WWF-UK, The Carbon Literacy Project a Climate Emergency UK yn cyflwyno arbenigedd arbenigol i’r ymgyrch, gyda phob un yn cyfrannu cynnwys ac astudiaethau achos drwy gydol y flwyddyn.
Meddai Kathryn Machin, Pennaeth Ymgyrchoedd Ymgysylltu Cymunedol WWF-UK:
“Rydym yn falch dros ben o gefnogi ymgyrch 25 o Gamau Gweithredu Mawr ar Lefel Leol Carbon Copy yn 2025. Trwy ddathlu ac arddangos y gwaith anhygoel dan arweiniad cymunedau ar draws y DU, gallwn ysbrydoli mwy o bobl i weithredu dros natur lle maen nhw’n byw.
“Mae’r gweithredu ar y cyd hwn yn ymwneud â mwy nag adfer ein byd naturiol – mae’n ymwneud ag adfer ein hymdeimlad o bwrpas, ein cysylltiadau â’n gilydd, a’n lles meddyliol. Mae’r amser sydd yn cael ei dreulio mewn natur, yn enwedig pan mae’n cael ei fwynhau gyda phobl eraill, yn helpu i leihau teimladau o straen, pryder ac unigrwydd, ac yn ennyn teimlad o gysylltedd yn lle unigedd. Rydym yn gwybod hefyd, po fwyaf cysylltiedig ydy cymunedau, y mwyaf gwydn y gallant fod i sioc mewn perthynas â’r hinsawdd, ac yn fwy abl i gydweithio i ddiogelu ac adfer natur.
“Ond rydyn ni’n gwybod nad yw mynediad at natur yn gyfartal, yn enwedig i’r bobl hynny mewn ardaloedd trefol, sy’n sôn am ddiffyg mannau gwyrdd diogel a hygyrch. Dyma lle gall gweithredu cymunedol wneud gwahaniaeth go iawn. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn greu lleoedd lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac fel eu bod yn cael eu croesawu, a lle mae pawb yn teimlo fel eu bod yn perthyn.
“Mae heriau byd-eang fel newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yn gallu teimlo’n llethol. Mae ein cydweithrediad â Carbon Copy yn ymwneud â throi hyn yn obaith, ac ysbrydoli ein gilydd i greu cymunedau iachach, hapusach a mwy gwydn.”
Meddai Tony Johnson, Cydlynydd Datblygu’r Sector, The Carbon Literacy Project:
“Mae The Carbon Literacy Project yn falch dros ben o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda Carbon Copy a sefydliadau blaenllaw eraill fel rhan o’r ymgyrch uchelgeisiol hon. Mae Carbon Literacy yn cynnig profiad diwrnod o hyd sy’n darparu llawer o wybodaeth i gyfranogwyr, ac sy’n gwneud iddynt deimlo wedi’u grymuso ac wedi’u hysbrydoli i weithredu eu hunain i helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd. Drwy ganolbwyntio ar gydweithio ac atebion lleol, mae’r ymgyrch 25 o Gamau Gweithredu Mawr ar Lefel Leol yn cyd-fynd â’n cenhadaeth o helpu pawb i ysgogi’r newid systemig sydd ei angen i sicrhau diwylliant carbon isel lle maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn astudio ynddo.”
Ychwanegodd Annie Pickering, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Climate Emergency UK:
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda Carbon Copy ac eraill ar yr ymgyrch 25 o Gamau Gweithredu Mawr ar Lefel Leol yn 2025. Rydym yn gwybod, trwy ein hadnodd Cardiau Sgorio Gweithredu ar yr Hinsawdd y Cyngor, yn union pa mor bwysig ydy cynghorau lleol o ran gweithredu’n lleol ar yr hinsawdd, ond dim ond wrth weithio gyda chymunedau lleol y gall hyn fod yn effeithiol. Mae’n wych gweld sut mae’r Cardiau Sgorio wedi cael eu defnyddio i greu’r astudiaethau achos hyn ac, yn yr un modd, sut mae’r astudiaethau achos hyn yn dod â rhai o’r cwestiynau ar y Cardiau Sgorio i fywyd o ran sut y gall cynghorau lobïo’n genedlaethol dros newid, plannu mwy o goed a mwy.”
Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan gyfres podlediad 25 pennod, Do Something Bigger, gyda phennod newydd bob pythefnos yn canolbwyntio ar un o’r camau gweithredu. Bydd siaradwyr yn cynnwys arbenigwyr o fusnesau, elusennau, llywodraeth leol a sefydliadau cymunedol; a bydd sawl pennod yn cynnwys cyd-westeion arbennig, proffil uchel.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archwilio’r 25 o Gamau Gweithredu Mawr ar Lefel Leol, ewch i carboncopy.eco/takeaction.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Isabelle Sparrow, Pennaeth Cyfathrebu Carbon Copy, drwy e-bostio: isabelle@carboncopy.eco / 07766375192
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llais
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.