Datganiad (15/11/24)
Gofynnodd Llywodraeth Cymru am farn grwpiau lleiafrifoedd ethnig er mwyn deall y rhwystrau i ddefnyddio parciau a mannau gwyrdd yng Nghymru. Cynhaliodd grŵp cymunedol bach sgyrsiau ag aelodau eu cymuned ehangach, gan gyflwyno sylwadau o’r trafodaethau fel rhan o sgwrs genedlaethol ehangach.
Awgrymodd un o aelodau’r gymuned: “Creu ffermio trefol (rhandiroedd) a mannau di-gŵn mewn mannau gwyrdd lleol”. Er enghraifft, weithiau mae meysydd chwarae plant yn barthau di-gŵn. Nid oedd hyn yn rhan ganolog o’r sgwrs nac o adborth y grŵp, dim ond un sylw allan o nifer fawr o’r sgwrs gymunedol oedd hon ac nid yw’n bolisi gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r llinell unigol hon wedi’i dewis, ei thynnu allan o’i chyd-destun, ei chamliwio a’i defnyddio fel abwyd-clic i ysgogi ymgysylltiad. Roedd erthygl wreiddiol y Daily Mail, yn seiliedig ar y llinell unigol hon, yn honni bod cŵn wedi’u gwahardd o Gefn Gwlad Cymru, sy’n anghywir ac yn anffeithiol. Mae’r pennawd bellach wedi’i newid ond mae’n parhau i fod yn gamarweiniol; nid oes unrhyw un wedi awgrymu bod cŵn, na’u perchnogion, yn hiliol neu y dylid eu gwahardd o fannau gwyrdd trefol, ac yn enwedig nid o’r cefn gwlad na chafodd ei grybwyll yn y sgyrsiau.
Byddai’n well gennym pe bai’r cyfryngau a gwleidyddion yn canolbwyntio ar y materion gwirioneddol mae cymunedau’r DU yn eu hwynebu. Mae hiliaeth yn parhau i fod yn fater sy’n achosi rhwyg a dioddefaint i lawer yn ein cymunedau ac yn y pen draw mae’n gywir bod lywodraethau ac eraill yn mynd i’r afael â hyn. Mae miliynau o bobl ledled y DU mewn tlodi tanwydd ac mae’r argyfwng costau byw yn parhau’n ganolog i fywydau pobl. Mae’r cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud biliynau o bunnoedd tra bod miliynau’n byw mewn cartrefi oer a llaith ac mae llygredd aer yn lladd mwy na 28,000 yn y DU bob blwyddyn.
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.