fbpx

Ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Werdd Fawr 7-15 Mehefin 2025

Gadewch i ni gyfnewid gyda'n gilydd, am y gorau.

Cewch eich ysbrydoli gan y cyfnewidiadau mae cymunedau'n wneud bob dydd i helpu creu yfory gwell.

COFRESTRWCH EICH DIGWYDDIAD

Bydd yr #WythnosWerddFawr yn cael ei chynnal eleni rhwng yr 7fed a’r 15eg Mehefin 2025. Bydd yn gweld pobl ledled y wlad yn ymuno â’i gilydd mewn dathliad cenedlaethol o weithredu i amddiffyn y blaned, gan ddangos bod cymunedau ledled y DU yn gwneud cyfnewidiadau bob dydd i helpu i greu yfory gwell – a nawr mae angen dybryd ar wleidyddion i gamu i fyny a chwarae eu rhan.

Darganfod mwy am Wythnos Werdd Fawr 2025

Beth bynnag rydych chi’n cynllunio, gwnewch yn siŵr eich bod yn COFRESTRU EICH DIGWYDDIAD i wneud iddo gyfrif!

Mae Climate Cymru yn cynnig cefnogaeth i sefydliadau, grwpiau cymunedol ac unigolion yng Nghymru i gymryd rhan yn Wythnos Werdd Fawr 2025:

Sesiynau galw heibio wythnosol yn ail rhwng nos Lun am 7pm a nos Fercher am hanner dydd.

  • Dydd Mercher, Mai 14: Hyfforddiant Cipio Effaith.
  • Dydd Llun, Mai 19: Cysylltiadau Cyhoeddus ar gyfer eich digwyddiad Wythnos Fawr Werdd
  • Dydd Mercher, Mai 28: Sut i ymgysylltu â’ch gwleidydd lleol
  • Dydd Llun, Mehefin 2: I’w gadarnhau
  • Grŵp WhatsApp ar gyfer mynediad hawdd at wybodaeth a chymunedau Wythnos Werdd Fawr ledled Cymru, adnoddau a mwy

Cysylltwch â Michaela ar michaela@climate.cymru i gofrestru.

Adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo Wythnos Werdd Fawr

  1. Lawrlwythwch graffeg ‘Rydym yn cymryd rhan’ yn Gymraeg neu Saesneg yma.
  2. Pecyn Cyfathrebu Trefnwyr Digwyddiad gyda thempledi Canva gwych ar gyfer eich posteri a graffeg GBGW25
  3. Pecyn Cyfathrebu Aelodau gydag asedau cyfryngau cymdeithasol gwych a lluniau i chi eu defnyddio i hyrwyddo eich digwyddiad
  4. Dewch o hyd i dempledi a chopïau defnyddiol yn ein llawlyfr cyfryngau cymdeithasol GBGW

Wrth rannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch:

  • HASHNODAU: #WythnosWerddFawr #CyfnewidGyda’nGilydd
  • TAGIAU: @TheCCoalition ar X, @theclimatecoalition ar Instagram / Facebook

Ysgolion

Yn meddwl tybed sut gall eich ysgol gymryd rhan yn yr #WythnosWerddFawr? Edrychwch ar y pecynnau gweithgaredd hyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd!

Maen nhw’n llawn o weithgareddau, cynlluniau gwersi a syniadau ar gyfer sut gallwch chi gael eich disgyblion i gymryd rhan yn yr wythnos o weithredu cenedlaethol hon i fynd i’r afael â amddiffyn byd natur a newid hinsawdd.

greatbiggreenweek.com/get-involved/schools

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.