fbpx

Ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Fawr Werdd 7-15 Mehefin 2025

Gadewch i ni gyfnewid gyda'n gilydd, am y gorau.

Cewch eich ysbrydoli gan y cyfnewidiadau mae cymunedau'n wneud bob dydd i helpu creu yfory gwell.

COFRESTRWCH EICH DIGWYDDIAD

Bydd yr #WythnosFawrWerdd yn cael ei chynnal eleni rhwng yr 7fed a’r 15eg Mehefin 2025. Bydd yn gweld pobl ledled y wlad yn ymuno â’i gilydd mewn dathliad cenedlaethol o weithredu i amddiffyn y blaned, gan ddangos bod cymunedau ledled y DU yn gwneud cyfnewidiadau bob dydd i helpu i greu yfory gwell – a nawr mae angen dybryd ar wleidyddion i gamu i fyny a chwarae eu rhan.

Darganfod mwy am Wythnos Fawr Werdd 2023.

Beth bynnag rydych chi’n cynllunio, gwnewch yn siŵr eich bod yn COFRESTRU EICH DIGWYDDIAD i wneud iddo gyfrif!

Cefnogaeth

Gwyrdd Gyda’n Gilydd: Grymuso Cymunedau, Ysbrydoli Newid

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfle cyllido gwych, a wnaed yn bosibl gan y Loteri Genedlaethol, i helpu cymunedau ledled Cymru i ddod â’u syniadau gwyrdd yn fyw yn ystod Wythnos Fawr Werdd 2025 (7 – 15 Mehefin)! P’un a ydych chi’n cynllunio gŵyl-eco, gweithdy cynaliadwyedd, prosiect gardd gymunedol, neu fenter hinsawdd y celfyddydau, rydym am helpu! Mae’r cyllid hwn wedi’i gynllunio i gefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, anableddau a ieuenctid, a gellir ei ddefnyddio i gyfrannu at gostau eich digwyddiad.

Yr hyn y gall y gronfa ei gynnwys

  • Gallwn wneud cyfraniad bach tuag at gostau hanfodol y digwyddiadau, fel:
  • Llogi lleoliad – Creu lleoedd ar gyfer newid
  • Lluniaeth – Cadw eich cymuned llawn egni
  • Nwyddau ar gyfer prosiectau celf – Ysbrydoli creadigrwydd drwy gynaliadwyedd
  • Costau hanfodol eraill – Byddwn yn ystyried costau ychwanegol sy’n helpu i ddod â’ch digwyddiad yn fyw (yn amodol ar gadarnhad).

Sylwer: Er efallai na fyddwn yn gallu ariannu digwyddiad cyfan, rydym yn eich annog i wneud cais am hyd at £150 i helpu i dalu costau allweddol.

Sut i wneud cais

LAWRLWYTHWCH Y FFURFLEN GAIS

Dyddiadau allweddol

  • Lansio’r gronfa: 1 Mawrth 2025
  • Dyddiad cau: 9 am, 15 Mawrth 2025
  • Cyhoeddi penderfyniadau ariannu erbyn: 25 Mawrth 2025
  • Cyflwyno adroddiad byr a derbynebau erbyn: Dydd Llun 20 Gorffennaf

Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud

Byddwch yn cael eich hysbysu drwy e-bost erbyn 25 Mawrth 2025. Bydd un o’n gwirfoddolwyr yn cysylltu gyda chi i roi gwybod. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i gael cynrychiolydd Climate Cymru i fynychu eich digwyddiad.

Nodiadau pwysig

  • Bydd yr arian yn cael ei dyrannu yn ddibynnol ar ba mor agos y mae eich digwyddiad yn cydlynu â nodau’r Wythnos Fawr Werdd ac yn cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Bydd y dyraniad cyllid yn cael ei benderfynu gan Gydlynydd yr Wythnos Fawr Werdd a gwirfoddolwyr Climate Cymru. Grŵp Cynghori Climate Cymru sy’n goruchwylio’r gronfa.
  • Byddwn yn ystyried pob cais yn ôl ei rinweddau ond dim ond gronfa fach sydd gennym, felly ni allwn warantu cyllid ar gyfer pob cais.
  • Os nad ydych yn siŵr a yw eich costau yn gymwys, mae croeso i chi anfon e-bost atom cyn cyflwyno eich cais: clare@climate.cymru
  • Bydd gofyn i chi gyflwyno’r holl dderbynebau, ynghyd ag adroddiad, gydag uchafswm o 200 gair, a x2 o ddelweddau, erbyn 20 Gorffennaf 2025 i clare@climate.cymru

Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu eglurhad, cysylltwch â ni.

Gadewch i ni wneud Wythnos Fawr Werdd 2025 y mwyaf cynhwysol ac effeithiol eto.

Adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo Wythnos Fawr Werdd

Defnyddiwch dempled Canva newydd ac ychwanegwch eich logo (sgwâr, portread neu dirwedd) neu lawrlwythwch graffeg ‘Rydym yn cymryd rhan’ yn Gymraeg neu Saesneg yma.

Wrth rannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch:

HASHNODAU: #WythnosFawrWerdd #CyfnewidGyda’nGilydd

TAGIAU: @TheCCoalition ar X, @theclimatecoalition ar Instagram / Facebook

Ysgolion

Yn meddwl tybed sut gall eich ysgol gymryd rhan yn yr #WythnosFawrWerdd? Edrychwch ar y pecynnau gweithgaredd hyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd!

Maen nhw’n llawn o weithgareddau, cynlluniau gwersi a syniadau ar gyfer sut gallwch chi gael eich disgyblion i gymryd rhan yn yr wythnos o weithredu cenedlaethol hon i fynd i’r afael â amddiffyn byd natur a newid hinsawdd.

greatbiggreenweek.com/get-involved/schools

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.