Dioddefwyr llifogydd Canolbarth Cymru yn gwisgo esgidiau glaw a codi rhawiau i blannu 40,000 o goed er mwyn arafu llif y dŵr.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan Y Cambrian News ddydd Gwener 16 Ionawr 2026.
Yn fuan yn y bore, deffrodd Mick ei wraig Jenny i ddringo allan o ffenestr eu bwthyn ar 9 Mehefin, 2012.
Gan fethu cysgu, roedd wedi gwylio’r dŵr yn codi o’r afon Leri sydd yn agos at ei gartref, nes iddo lifo i mewn i’w ystafell fyw mewn 40 munud.
Cododd y dŵr mor gyflym fel erbyn iddynt gyrraedd i lawr y grisiau, ni allent agor y drws ffrynt – gan godi saith troedfedd, olchi eu heiddo i ffwrdd, hyd yn oed eu sied, a llenwi eu cartref teuluol o 40 mlynedd mewn silt a malurion.
Wrth wylio eu tŷ o’r dafarn yn gorlifo, dywedodd Mick Fothergill, 76: “Mae’n anodd esbonio’r teimlad o anobaith, diymadferthedd ac anghrediniaeth ei fod yn digwydd i chi.
“Doeddwn i erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg iddo.”
Tŷ Mick (gwyn) a ddisgrifiodd fel un a oedd wedi gweithredu fel “argae” i afon Leri, a llifogydd ar 9 Mehefin, 2012. (Talybont Floodees)
Roedd cartref Mick a Jenny Fothergill yn un o 27 o dai yn Nhalybont, Ceredigion, a gafodd eu heffeithio gan lifogydd sydyn a welodd gwerth mis o law yn disgyn mewn 24 awr: “Dinistriwyd bron popeth lawr grisiau oedd o unrhyw werth.
“Roedd fel pe bai rhywun wedi codi’r tŷ a’i ysgwyd, ei orchuddio â mwd a’i droi wyneb i waered. Roedd yn ddinistriol.”
Pedair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae’r pentref yn dal i fod mewn perygl o lifogydd, heb unrhyw fesurau atal llifogydd ar raddfa fawr wedi’u cyflwyno, ond mae gwyddonwyr hinsawdd yn rhagweld y bydd y risgiau o lifogydd yn cynyddu wrth i’r tywydd fynd yn fwy gwlyb, fwy gwyntog, ac yn fwy eithafol.
Dros y degawd diwethaf, mae Cymru wedi profi mwy o lifogydd oherwydd glaw trwm, llif afonydd uwch, ac ymchwyddiadau môr. Ar hyn o bryd, mae dros 245,000 o dai yng Nghymru mewn perygl o foddi.
Heb gymorth gan y llywodraeth, cododd y Talybont Floodees (fel y daethant i gael eu hadnabod) eu rhawiau i wneud rhywbeth amdani eu hunain.
Daeth Mick Fothergill a’i gymdogion i gael eu hadnabod fel ‘Talybont Floodees’. (Deb Luxon)
Pob wythnos yn y gaeaf am y pum mlynedd diwethaf, mae’r grŵp wedi dringo’r bryniau uwchben y pentref mewn gwynt, glaw ac eira i blannu 40,000 o goed i arafu llif y dŵr i lawr y dyffryn.
Maen nhw’n gobeithio y bydd y coed yn amsugno’r dŵr glaw ymhellach i fyny’r dyffryn i atal llif “brigau” sydyn, fel yr eglurodd Mick: “Mae ein hafon yn adweithiol iawn – mae’n cynyddu’n gyflym iawn ac yn gostwng yn gyflym iawn hefyd.
“Ein syniad oedd pe gallem leihau’r brig na fyddem yn profi llifogydd i’r tai, byddai’r afon yn weithredol am ychydig yn hirach.
“Mae gan y plannu, wrth gwrs, ystod eang o fanteision – nid dim ond cadw dŵr a cheisio newid yr hydroleg, ond hefyd helpu bioamrywiaeth a phob math o bethau eraill, felly mae’n wych.”
Nid oedd aros i’r awdurdodau i wneud rhywbeth amdano yn opsiwn i’r grŵp, oherwydd roedd y perygl o golli ei thai eto yn cynyddu efo’r afon, ac efo ei phryder pob dydd o law trwm yn disgyn.
Mae’r grŵp plannu coed yn cynnwys myfyrwyr, pobl sydd wedi ymddeol, dioddefwyr y llifogydd, pobl sydd yn frwd dros fywyd gwyllt, tirfeddianwyr, a’r rhai sydd eisiau cyfle i fynd allan yn ystod y gaeaf. (Deb Luxon)
Wedi’i harwain gan ddioddefwr y llifogydd, Linda Denton, roedd y grŵp wedi ymgysylltu â thirfeddianwyr ar bedwar safle gwahanol, a cyn y Nadolig fe wnaethon nhw ddechrau ar waith i blannu 12,000 arall, gan eisoes greu argaeau sy’n gollwng dŵr drwy ddefnyddio helygen i ddal gormodedd o ddŵr mewn cyfnodau o law sydyn.
Mae’r grŵp yn cynnwys pobl rhwng 15 a 75 oed, dioddefwyr llifogydd Talybont, eu brodyr a chwiorydd, cymdogion, myfyrwyr, trigolion o bentrefi cyfagos a thirfeddianwyr, i gyd yn gweithio ochr yn ochr.
Gwelodd David (Dai) Dowsett o Dalybont ddifrod y llifogydd yn uniongyrchol, gan gynnig cartref i’w chwaer Jenny a Mick am yr 11 mis y buont heb gartref.
Mae’r dyn 75 oed yn amcangyfrif ei fod yn gyfrifol am blannu rhwng 2,000 a 3,000 o goed: “Daeth y pentref at ei gilydd i helpu llawer o bobl mewn sawl ffordd wahanol.”
“Daethom i ddeall y byddai plannu coed yn helpu i arafu dŵr llifogydd a sefydlogi’r ddaear.
“Mae hefyd yn creu llinellau coed ar gyfer adar a choridorau bywyd gwyllt ar gyfer anifeiliaid sy’n cysylltu â phlanhigfeydd coed eraill…
“Pan fyddwch chi tu mewn, mae’n hawdd aros y tu mewn a gwylio’r teledu, felly mae’n esgus da i fynd allan.
“Mae’n rhywbeth rwy’n gobeithio bydd yn cael effaith hirdymor wrth arafu dirywiad y dyffryn.”
Cafodd seler Dai Dowsett ei ddinistrio gan lifogydd sydyn yn 2012. (Deb Luxon)
Efallai bod yr ymyriadau hyn yn ymddangos yn fach, ond yn ôl y tywydd, ni allant ddod yn ddigon cyflym.
Hydref 2025 oedd y 10fed mwyaf wlyb yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau bron i 200 mlynedd yn ôl, gyda glawiad mis Tachwedd 59 y cant yn uwch na’r cyfartaledd.
Cafodd y llifogydd cyn y Nadolig effaith ar ddigartrefedd, gan arwain at fwy o bobl yn colli cartrefi yn Nhrefynwy, Castell-nedd Port Talbot, a Dinbych-y-pysgod, gyda thywydd mwy eithafol i ddod.
Yn y cyd-destun hwn, mae’n hawdd gweld plannu coed fel ateb dros dro i broblemau tywydd y wlad, ond byddai’r grŵp yn anghytuno’n gryf â hynny.
Yn ôl Coed Cadw, sy’n darparu’r coed brodorol ac yn ariannu cydlynydd gwirfoddolwyr ar gyfer y grŵp, mae’r coed yn helpu i amsugno dŵr yn ddyfnach i’r pridd drwy eu gwreiddiau, yn hytrach na’i adael i redeg dros yr wyneb ac i mewn i afonydd ar gyflymder uchel, gan leihau dŵr ffo hyd at 80 y cant o’i gymharu ag asffalt.
Mae’r dail hefyd yn helpu, gan fod astudiaethau’n dangos bod hyd at 30 y cant o law yn anweddu o’r dail cyn cyrraedd y ddaear.
Mae Rhodri Lloyd-Williams yn rheoli fferm da byw deuluol yn y bryniau uwchben Talybont. (Deb Luxon)
Mae’n cymryd pentref i leihau’r risg o lifogydd, fel y profodd y ffermwr Rhodri Lloyd-Williams: “[Mae plannu coed] yn galed ac yn cymryd amser, felly roedd yn bendant yn rhyfedd pan ddywedodd pobl eu bod nhw eisiau helpu.
“Meddyliais i, ‘rydych chi’n wallgof’!
“Ond mae pobl yn troi fyny ddwywaith yr wythnos, mae pawb yn sgwrsio ac yn stopio weithiau i gael cacennau a the.
“Yn aml iawn byddwch yn sylweddoli eich bod chi’n gweithio ochr yn ochr â phobl sydd efallai erioed wedi bod ar fferm dda byw o’r blaen.”
Y gaeaf hwn, mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr ar fferm deuluol Lloyd-Williams, Moelgolomen.
Dechreuodd y teulu blannu coed yn 2018 “yn gyntaf ac yn bennaf fel penderfyniad ffermio”, ar ôl i dreialu pori cylchdro gyda chaeau wedi’u rhannu arwain at gynnyrch gwell o laswellt i’w ddefaid a’i wartheg, gan arbed arian ar borthiant.
Roedd Sian Saunders o’r pentref cyfagos, Taliesin, “wedi’i syfrdanu” gan sut y “daeth y pentref at ei gilydd” ac eisiau helpu. (Deb Luxon)
Roedd y gwair yn tyfu’n well gyda gwreiddiau iachach, diolch i bridd iachach sydd wedi’i gywasgu’n llai – sy’n golygu bod mwy o ddŵr glaw yn cael ei amsugno.
Mae’r 750 erw o fryniau tonnog wedi bod yn ei deulu ers y 1700au, ond mae Rhodri yn gobeithio diogelu’r tir ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Dywedodd y tad sy’n 43 oed ac efo dri phlentyn: “Hoffwn i droi pob ffens yn y fferm yn ffens ddwbl gyda gwrych.
“Yn 2018, fe wnaeth yr haf gyrraedd 35 gradd Celsius, ac fe sylweddolon ni’n sydyn fod gennym ni wartheg Duon Cymreig heb gysgod ar y bryniau.
“Roedd angen i mi feddwl am gysgod rhag yr hafau sych a’r gaeafau oer, gwlyb rydyn ni’n eu cael.”
Rhodri (dde) a’i fam Monica Lloyd-Williams (chwith) yn plannu coed ar fryniau uchaf eu tir. (Deb Luxon)
Ond dywedodd nad yw’r gwirfoddolwyr yn unig yn helpu i gynyddu nifer y coed y gallant eu plannu mewn diwrnod, gan rannu stori un o’r gwirfoddolwyr plannu coed a oedd hefyd yn fegan ymroddedig sydd nawr yn prynu cig eidion ganddo ar ôl dysgu am sut mae’n rhedeg ei fferm: “Mae’n wych oherwydd dydych chi ddim bob amser yn cael y cyfle i siarad â’ch gilydd, rydych chi’n cael clywed safbwyntiau eraill.”
Ynghyd â’r gwirfoddolwyr, bydd y fferm eleni’n llwyddo i blannu dros 100,000 o goed, a dywedodd Rhodri: “Dywedodd hydrolegydd y byddai angen i ni blannu dros ddwy filiwn o goed i wneud gwahaniaeth i’r risg o lifogydd, ac awgrymodd ei fod yn eithaf afrealistig.
“Ond rydyn ni eisoes wedi plannu 90,000 o goed, ac rydyn ni ond yn un fferm, felly mewn gwirionedd rydyn ni’n sôn am 20 gwaith yr hyn rydyn ni wedi’i wneud, felly dydy o ddim y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl os byddwn yn parhau.”
Yn y pen draw, fodd bynnag, mae’n costio arian iddyn nhw, a dywedodd Rhodri y byddai eu targed yn llawer haws i’w gyflawni gyda chefnogaeth y llywodraeth: “Rwy’n breuddwydio am ddyfodol lle mae’r llywodraeth neu efallai ecwiti preifat yn sicrhau ei fod o leiaf yn niwtral o ran cost i ni, yn ddelfrydol gyda rhyw fath o gymhellion i annog ffermydd eraill i ddilyn yr un trywydd.”
Mae Dai yn cytuno bod angen “cyfranogiad y gymuned a’r llywodraeth” ar brosiectau fel hyn: “Mae caniatâd cynllunio a chymorth ariannol yn amlwg yn angenrheidiol.
“Byddai’n ddefnyddiol pe bai’r llywodraeth yn fwy rhagweithiol wrth egluro pam mae angen [plannu coed]; yn enwedig gan fod safbwyntiau negyddol am blannu coed gan rai yn y gymuned.”
Ieuan Dennis o Dalybont yn cerdded drwy’r sgwâr dan ddŵr yn 2012. (Arwyn Parry Jones)
Yn 2025, cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion opsiynau i’r gymuned i fynd i’r afael â risgiau llifogydd yn y pentref, ond fe’u crëwyd heb gyfranogiad y gymuned, yn ôl Mick.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y pentref o 600 o bobl, lle mae’r afon Ceulan ac afon Leri yn cwrdd, wedi creu Cynllun Llifogydd Cymunedol eu hunain a dewis ymatebwyr brys llifogydd, wedi mapio’r dalgylch i ddeall yn well beth ddigwyddodd y diwrnod tyngedfennol hwnnw, wedi cynnal arolygon gwyddoniaeth dinasyddion o ansawdd dŵr ar gyfer llygredd carthffosiaeth a halogiad pridd, ac wedi sefydlu grŵp plannu coed llwyddiannus, ar ben mynd i’r afael â’u problemau eu hunain o ddigartrefedd dros dro, problemau efo yswiriant a’r cynnwrf emosiynol sy’n dod gyda cholli cartref.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion ei fod yn “cydnabod ac yn croesawu’r ymdrechion sylweddol” a wnaed gan gymuned Talybont, a bod nifer o ymarferion modelu ac astudiaethau technegol manwl wedi’u cynnal i ddeall pam mae llifogydd yn digwydd yno yn ystod digwyddiadau eithafol a nodi’r ateb hirdymor mwyaf effeithiol.
Dywedodd llywodraeth Cymru ei bod yn hyrwyddo rheoli llifogydd yn naturiol, gan gynnwys ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd, ar ôl buddsoddi £377 miliwn i leihau risgiau llifogydd ers 2021.
Ychwanegodd llefarydd: “Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau newid hinsawdd, ac mae rheoli’r risgiau cynyddol o lifogydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni a’n hawdurdodau rheoli risg llifogydd.”
Dewis sydd well gan’ y cyngor ar gyfer lliniaru llifogydd yn y pentref, gan gynnwys ardaloedd storio llifogydd (FSA), rheoli llifogydd naturiol ac adfer afonydd. (Cyngor Sir Ceredigion)
Dim ond y mis hwn, lansiwyd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gafodd ei daro gan brotestiadau – y cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru ers Brexit – gyda’r bwriad o’i gwneud hi’n haws i ffermwyr fel Rhodri hyrwyddo mentrau gwyrdd ar eu tir.
Mae’r Floodees wedi dangos dyfeisgarwch a gwydnwch rhyfeddol yn eu gwaith i achub eu pentref, ond mae’n codi’r cwestiwn – a ddylent fod wedi cael eu gadael i wneud hynny ar ben eu hunain?
Ar hyn o bryd, mae hanner yr holl gynghorau yng Nghymru (11 o 22) yn gwneud atgyweiriadau brys i amddiffyn rhag llifogydd.
Oherwydd cyllidebau tynn, mae cynghorau’n canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd fwyaf angen cymorth; ond wrth i’r tywydd waethygu, mae trigolion mewn ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd ledled Cymru yn gofyn a ddylid gwneud mwy i’w hatal.
Yn 2018, collodd dyn ei fywyd yng Nghaerfyrddin o ganlyniad i lifogydd, tra bod miloedd wedi marw yn India yn y blynyddoedd diwethaf, a channoedd yn yr Almaen.
Mae’r Met Office yn nodi bod y DU 7 y cant yn wlypach nag yr oedd hi 60 mlynedd yn ôl, o ganlyniad i newid hinsawdd sy’n achosi digwyddiadau o law trwm yn fwy aml.
“Wedi’i droi wyneb i waered” – Tŷ Mick ar ôl y llifogydd. (Talybont Floodees)
Wrth i Ddalybont aros am gynllun lliniaru llifogydd gan y cyngor, a heb adnoddau llywodraeth, penderfynodd y Floodees droi at ddulliau rheoli llifogydd naturiol fel ffordd ymarferol o newid tirwedd eu dyffryn. Mae’r dulliau’n cynnwys plannu coed, ailgyflwyno afancod, ac adfer mawndiroedd sy’n gweithredu fel “sbwngiau enfawr” ar draws y dirwedd.
Maent wedi llwyddo i sicrhau cefnogaeth eang gan y gymuned, gan gynnwys tirfeddianwyr, grŵp hollbwysig mewn unrhyw gynllun sydd, heb gefnogaeth o’r awdurdodau, yn dibynnu ar fynediad at dir a chaniatâd y rhai sy’n berchen arno.
Fodd bynnag, fel y dywedodd Friends of the Earth Cymru, “bydd graddfa llifogydd yn y dyfodol yn cael ei phennu gan bolisïau a chamau gweithredu llywodraethau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr er mwyn arafu newid hinsawdd”.
Wrth i’r dŵr ostwng y diwrnod wedyn yn 2012, symudodd y Fothergills eu heiddo i’r stryd, tra roedd cymdogion yn hongian lluniau o hen albymau teulu’r Fothergills yn eu tŷ gwydr i sychu’n ofalus. Daeth trigolion o bentrefi cyfagos â bwyd, fel y gallai’r Floodees yn Nhalybont bob dydd ymgynnull am ginio cymunedol yn y dafarn, gan rannu gwybodaeth am hawliadau yswiriant, sut i lanhau clai o’r waliau a beth i’w wneud nes.
Mae Mick a Jenny yn dechrau sychu eu heiddo ar ôl y llifogydd. (Talybont Floodees)
Bu’r Floodees yn cyfarfod bob dydd, wedyn bob wythnos, yna bob mis am sawl blwyddyn, gan gasglu gwybodaeth am pam y digwyddodd y llifogydd a llunio cynllun i atal iddynt ddigwydd eto.
Dywedodd Mick: “Mae’n hawdd edrych ar y dyffryn a dweud, wow, mae’n brydferth.
“Pan edrychwch yn ofalus ar y dirwedd, rydych chi’n datblygu dealltwriaeth o sut mae wedi newid i fod yn fuddiol neu niweidiol i’r hydroleg, a sut y gallem ei ddefnyddio.
“Mae’n eich dysgu i werthfawrogi lle rydyn ni’n byw mewn ffordd wahanol.
“[Mae plannu coed] yn uno pobl ac yn cryfhau’r cysylliad rhyngddo ni.
“Daw pobl o wahanol gefndiroedd, ac mae gan bawb nod cyffredin sef plannu.
“Rydyn ni’n cael picnic fyny’r bryn.
“Mae’n waith caled, ond mae’n lot o hwyl.”
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llais
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.