fbpx
View all schools

Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant yn gymuned llawn gofal lle mae pob unigolyn yn bwysig. Mae pob disgybl yr un mor bwysig ac yr un mor werthfawr. Ceisia’r ysgol helpu pobl ifanc i feithrin y wybodaeth, y sgiliau, yr hunan-hyder a’r ymwybyddiaeth er mwyn iddynt fedru cyfrannu’n llawn at gymdeithas a datblygu yn ysbrydol, yn foesol, yn ddiwylliannol a chymdeithasol drwy’r cwricwlwm a gweithgareddau eraill yr ysgol.

Caiff ethos yr ysgol ei lywio drwy anelu at sicrhau gofal, ystyriaeth, a pharch rhwng y disgyblion, y staff a’r gymuned. Disgwyliwn i ddisgyblion o bob oedran ymddwyn mewn modd briodol tra yn yr ysgol gan ddangos lefel uchel o hunan-barch, parch tuag at eraill o’u cwmpas yn ogystal â pharch tuag at yr ysgol, gan wneud eu gorau i gadw enw da yr ysgol ar bob achlysur.

Nod cwricwlwm yr ysgol yw hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol y disgyblion a’u paratoi ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau bywyd fel oedolion.

Climate Cymru Ymroddedig Signature name Signature role
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.