

Amdanynt
Mae’r Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru yn dod â sefydliadau, grwpiau, rhwydweithiau ac unigolion ynghyd i gyflymu gweithredu dros gyfiawnder hinsawdd byd-eang ac i sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau cysylltiedig, datblygu polisi ac ymgyrchoedd.
Yr hyn sy’n greiddiol i’r grŵp, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yw sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yng Nghymru wedi’i seilio ar ddealltwriaeth ddwfn o gyfrifoldeb byd-eang—gwneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang a gosod Cymru fel llais gweithgar ar lwyfan y byd.
Mae’r rhai mwyaf agored i niwed – pobl o liw, menywod, Pobloedd Frodorol, LHDTCRh+, pobl anabl, a’r henoed – yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan newid hinsawdd. Mae’r Global Climate Risk Index yn dangos mai’r gwledydd sy’n cyfrannu leiaf at allyriadau byd-eang yw’r rhai sydd fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd. Mae’r annhegwch hwn yn tanlinellu’r angen dybryd am gyfiawnder hinsawdd, wrth i gymunedau yn y De Byd-eang ddioddef canlyniadau argyfwng na wnaethant ei achosi.

Gweithredoedd
Rhaid i’n gweithredoedd i frwydro yn erbyn newid hinsawdd fod yn gyfiawn, yn deg, ac yn gyson â chyfraith hawliau dynol rhyngwladol. Mae lliniaru hinsawdd nid yn unig yn fater o gyfrifoldeb amgylcheddol ond mae hefyd yn allweddol i wireddu hawliau dynol yn fyd-eang, gan sicrhau nad yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn cael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ôl.
Nodau y grŵp
- Dod â sefydliadau amrywiol ynghyd i ganolbwyntio ar a chryfhau gyfleoedd i arwain camau gweithredu cydweithredol ar gyfiawnder hinsawdd byd-eang.
- Datblygu safbwyntiau polisi a fydd yn cyflymu camau gweithredu ar gyfer cyfiawnder hinsawdd byd-eang y gellir eu rhannu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod lleisiau amrywiol ein partneriaid a chymunedau rhyngwladol ar rheng flaen yr argyfwng hinsawdd yn cael eu cynrychioli a’u clywed yng Nghymru.
- Briffio, a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd, Cyrff y Sector Cyhoeddus (PSBau) a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau eraill ar gyfiawnder hinsawdd byd-eang a chyfrifoldeb byd-eang, gan gynnwys dimensiynau hiliol, cymdeithasol a rhywedd.
- Helpu i integreiddio cyfiawnder hinsawdd byd-eang a chyfrifoldeb byd-eang i ymgyrchoedd ehangach Climate Cymru.

Aelodau craidd
Aelodau craidd GCJG ar hyn o bryd yw: Oxfam Cymru, Cymorth Cristnogol, CAFOD, Friends of the Earth Cymru, Climate Cymru, WCIA, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched – Cymru, Maint Cymru a Phanel Cynghori Is-Sahara.
Mae’r lleisiau sy’n cael eu cynrychioli, eu llwyfannu a’u canoli yng ngwaith y grŵp yn mynd y tu hwnt i aelodau Climate Cymru.

Papur Polisi
Mae’r Grŵp Cyfiawnder Hinsawdd Byd-eang wedi datblygu papur cydweithredol, sy’n nodi 4 blaenoriaeth i osod cyfiawnder hinsawdd byd-eang a thegwch ar draws pob polisi cyhoeddus ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo:
- Gweithredu Hinsawdd
- Hawliau Dynol
- Colled a Difrod
- Dinasyddiaeth Fyd-eang
Papur Polisi Llawn yma.

Pam Mae’n Rhaid i Bensiynau Cymru Ddadfuddsoddi Nawr
Rhaid i Partneriaeth Pensiwn Cymru roi’r gorau i fuddsoddi mewn rhyfel, tanwyddau ffosil, a datgoedwigo – diwydiannau sy’n tanio cam-drin hawliau dynol, anghydraddoldeb a chwalfa hinsawdd.
Briff PPCCysylltwch
Mae’r grŵp hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb ac yn angerddol am gyfiawnder hinsawdd byd-eang. I ymuno â Chyfiawnder Hinsawdd Byd-eang Cymru, a gyda hynny â mudiad Climate Cymru, dylid gwneud cais i e-bost Climate Cymru Michaela Rohmann: michaela@climate.cymru.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.