TYF
Prif nôd TYF yw i helpu pobl i syrthio mewn cariad mor ddwfn â natur eu bod yn newid y ffordd maent yn byw. Mae TYF yn ysbrydoli cenedlaethau gyda carbon isel, gwisgoedd eco-gyfeillgar, atgyweiriadau, anturiaethau a dysgu ar benrhyn gwyllt a hardd Tyddewi.
“Mae Tîm Antur TYF yn gweithio ar gyrion Cymru yn cysylltu pobl â natur mewn lleoedd gwyllt. Mae gwaith dydd i dydd tywys antur yn cynnwys gweld yr eco-system unigryw a bywyd morol yn ffynnu yn aer glân a dŵr Sir Benfro. Ac eto rydym yn gwbl ymwybodol y bydd effeithiau newid yn hinsawdd ar dymheredd a chodiad yn lefel y môr yn cael effaith trychinebus ar gymunedau arfordirol ar draws y byd. Tra ein bod mewn sefyllfa ddiogel (am y tro) oherwydd ein lwc ein hunain yn nhermau lle cawsom ein geni, ni allwn sefyll a gwylio trychinebau ledled y byd. Ein cyfrifoldeb ni yw ateb gyda gweithredu sy’n cyfri. Cyfiawnder hinsaedd yw cyfiawnder cymdeithasol. Rhaid i lywodraethau weithio gyda'u gilydd yn Cop26 i weithio allan ffyrdd i gefnogi'r gwledydd sy'n gweld effeithiau newid hinsawdd yn gyntaf, yn aml yr un un gwledydd sydd â'r ôl troed carbon isaf. Dylai llywodraethau edrych ar ffyrdd o greu treth garbon fel bod rhaid i'r cwmnïau a'r unigolion sy'n llygru dalu amdano. Rhaid i lywodraethau edrych ar drosglwyddo i economi fwy cylchol lle mae cylch bywyd cynhyrchion yn cael ei ystyried yn ystod y camau dylunio a gweithgynhyrchu, ac i gymryd cyfrifoldeb am y cynnyrch ar ddiwedd ei oes. Rhaid i lywodraethau helpu cymunedau i ddod at ei gilydd i greu system ynni deg, ddatganoledig sy'n dod â'r pŵer yn ôl i'r bobl.”
Partneriaid eraill
Gweld popeth
Awel Aman Tawe

Safe Online Space Cymru

Circular Arts Network (CAN)

State of Nature
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartner
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.