Dyneiddwyr Cymru
Mae Gweithredu Hinsawdd Dyneiddwyr yn rhwydwaith o Dyneiddwyr DU sy'n cael ei arwain gan wirfoddolwyr, gan gynnwys aelodau a chefnogwyr Dyneiddwyr Cymru, sydd wedi ymrwymo i ailddiffinio ffyrdd o fyw ac ymgyrchu dros bolisïau sy'n hyrwyddo byw carbon isel, moesegol a chynaliadwy yng ngoleuni dirywiad hinsawdd a bioamrywiaeth y Ddaear. Rydym yn dod â Dyneiddwyr at ei gilydd i hwyluso gweithredu unigol a chyfunol ar y materion hyn.
Mae Dyneiddwyr yn cael eu harwain gan reswm a gwyddoniaeth ac yn cydnabod dyletswydd foesol tuag at les ein cyd-fodau a'r byd naturiol. Mae dyneiddwyr yn ceisio cymryd rhan mewn deialog a dadl yn rhesymol, yn ddeallus, a gyda thystiolaeth, ac yn hyrwyddo'r gred bod bodau dynol yn rhan o fyd naturiol ehangach y mae'n rhaid ei drin yn gynaliadwy er mwyn cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Partneriaid eraill
Gweld popeth
South Riverside Community Development Centre

Rewilding Britain

Prosiect y Ddaear

Ysgol Tryfan
Helpwch i lunio ein hymgyrch
Ydych chi’n gwmni nid-er-elw yng Nghymru? Ymunwch â’n mudiad, a helpu i greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Dod yn bartner
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.