fbpx

I’w ryddhau ar unwaith 28/11/2022

Mae diwrnod cenedlaethol o weithredu wedi’i alw ar 3 Rhagfyr, a bydd yn dod ag ymgyrchwyr ynghyd i godi ymwybyddiaeth a mynnu camau gweithredu i fynd i’r afael ag argyfyngau costau byw ac ynni. Yng Nghymru, mae Climate Cymru yn gwahodd pobl i ymuno â’u Diwrnod o Weithredu am 12pm y tu allan i’r Senedd.

Mae Climate Cymru yn rhwydwaith o dros 400 o sefydliadau a 14,000 o unigolion o bob rhan o Gymru. Bydd ymgyrchwyr fel rhan o Cynnes Gaeaf Yma Cymru, yn lansio deiseb i Lywodraeth Cymru ar y diwrnod, yn galw am gymorth brys i gartrefi bregus, rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol, uwchraddio ynni adnewyddadwy cost isel, a rhoi diwedd ar danwydd ffosil yn Cymru.

Mae costau byw, ynni a hinsawdd yn rhannu problemau, ac mae datrysiadau cyffredin ganddynt hefyd. 

Bydd ymgyrchwyr ar y diwrnod yn gwisgo melyn fel symbol o gynhesrwydd, ac yn cymryd sgarffiau melyn a phropiau i greu gwe o bobl, gan ddatgloi’r atebion i’r argyfyngau hyn ar ganol y we ar ffurf deiseb â chlo clap ( padlock), a fydd yn cael ei osod wrth ddrws y Senedd – fel symbol i ddangos bod gan Gymru’r atebion i fynd i’r afael â’r pryderon hyn os byddwn yn cydweithio fel Cenedl.

Bydd detholiad o siaradwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr ymgyrch, cyfleoedd tynnu lluniau gyda’n gofyn am y cyfryngau ar y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Bethan Sayed ar 07725144100

Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch dilynwch @climatecymru ar twitter.

Gofynion ymgyrch Cymru Gynnes Gaeaf Yma

Cynnes Gaeaf Yma y DU

 

Find out more
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.