Sut mae hen gymuned lofaol yn defnyddio pŵer gwynt i fynd i’r afael ag unigedd

14 Gorffennaf, 2026
Gan Debbie Luxon

Mae hen gymuned lofaol yn defnyddio’r gwynt yn eu dyffryn i fynd i’r afael ag unigedd cronig yn eu hardal.

Caeodd ysgol gynradd Cwmgors yn 2015 ar ôl blynyddoedd o brotestiadau. Roedd ar y farchnad am flynyddoedd, gyda llawer yn poeni y byddai’n parhau i ddirywio neu gael ei dymchwel. Lle y byddai plant a rhieni’n ymgynnull, roedd yn un o nifer o lefydd a oedd yn cau ei ddrysau yn yr hen gymuned lofaol. Yn cael trafferth gydag unigedd, wedi’i restru yn y 10% uchaf o gymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac wedi’i waethygu gan y pandemig, roedd yr ardal mewn angen dybryd am lefydd i ymgynnull a chysylltu.

 

Yn 2018, camodd yr elusen ynni cymunedol Awel Aman Tawe (Aman Tawe Wind – AAT) i mewn a phrynu’r ysgol, ac yn ddiweddar agorodd Hwb y Gors, sydd newydd ei ail-frandio, ei ddrysau am y tro cyntaf.

Yn 2018, camodd yr elusen ynni cymunedol Awel Aman Tawe (Aman Tawe Wind – AAT) i mewn a phrynu’r ysgol, ac yn ddiweddar agorodd Hwb y Gors, sydd newydd ei ail-frandio, ei ddrysau am y tro cyntaf.

 

Louise Griffiths, rhiant sydd efo phlant yn mynychu’r ysgol, yw rheolwr canolfan yr hwb: “Roedd yr adeilad hwn mor boblogaidd.

 

“Mae yna eiliadau go iawn pan fyddwch chi’n gorfod pinsio’ch hun, wrth weld cyn-ddisgyblion a chyn-staff yn dod i mewn; mae gennym blant yn rhedeg i fyny ac i lawr y coridorau unwaith eto – mae hynny’n arbennig iawn.”

Mae Hwb y Gors bellach yn cynnig lle cymunedol carbon isel ar gyfer grwpiau oedd heb le i ymgynnull o’r blaen, gan gynnwys grŵp iechyd meddwl, grŵp dysgwyr Cymraeg, clwb ffilmiau, caffi trwsio misol, gweithdai coginio a theatr ieuenctid.

 

Mae’n cynnig neuadd, gofod swyddfa gydweithio, caffi cymunedol, stiwdio gelf gyda ffwrn, a gardd, gan greu lle i grwpiau newydd hefyd, gan gynnwys grwpiau celf ysgol.

Dywedodd Louise Craik, Sylfaenydd Grŵp Cymorth ‘Shadows Depression’, fod natur gydgysylltiedig y ganolfan wedi dod yn rhan hanfodol o adferiad ei mynychwyr, gyda’i grŵp yn cyrraedd ei niferoedd llawn yn ei sesiwn gyntaf un: “Mae’n lle croesawgar hyfryd.

 

“Mae pobl yn cyrraedd wedi’u hynysu, maen nhw’n ofnus, dydyn nhw ddim yn siarad llawer ag unrhyw un.

“Maen nhw’n aros wedyn ac yn mynd i’r caffi, yn cael cinio; gyda chyfeillgarwch rhyfeddol yn cael ei greu. Mae’r hyn sy’n cael ei greu yno’n anhygoel.

 

“Yn aml, dynion sy’n mynychu’r sesiynau prysur hyn, y mae hi’n eu disgrifio fel rhai “rhyfeddol”, gan gynnwys pobl rhwng 18 a 74 oed.”

Daeth yr arian i dalu am y sesiynau iechyd meddwl, a’r arian i brynu’r adeilad, o’r un lle – y gwynt sy’n chwythu drwy’r dyffryn, diolch i fferm wynt cymunedol yr elusen.

 

Yn 2017, codwyd dau dyrbin gwynt uwchben Cwmgors gan grŵp entrepreneuriaid o bobl leol a oedd am harneisio gwynt lleol er lles lleol.

 

Arweiniodd y cwpl Emily Hinshelwood a Dan McCallum y ffordd ym 1998 gyda gweledigaeth.

 

Dywedodd Emily, sydd bellach yn Gyfarwyddwr Creadigol yn AAT: “Fe wnaethon ni sylweddoli ei fod yn lle gwyntog iawn.

“Roedd tua 15 mlynedd ar ôl streic y glowyr. Roedd yr ardal wedi dirywio’n llwyr; roedd llawer o ddiweithdra a dadrithiad, ac roedd llawer o wasanaethau’n cael eu tynnu’n ôl o’r ardal.

 

“Roedden ni’n teimlo, pe fedrwn ni adeiladu fferm wynt, y medrwn ni werthu’r ynni a rhoi’r holl elw yn ôl i’r gymuned a gwneud rhywbeth i gefnogi adfywio’r ardal.”

“Roedden ni’n teimlo, pe fedrwn ni adeiladu fferm wynt, y medrwn ni werthu’r ynni a rhoi’r holl elw yn ôl i’r gymuned a gwneud rhywbeth i gefnogi adfywio’r ardal.”

Emily Hinshelwood

Nid oedd yn genhadaeth syml, gan gymryd 19 mlynedd, brwydro yn erbyn gwybodaeth anghywir, arolygwyr cynllunio a wrthododd y cynllun dair gwaith ar sail ‘effaith weledol’, dau gais tir cyffredin, ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad barnwrol.

 

Cymerodd gymaint o amser i gael caniatâd cynllunio nes i AAT sefydlu cwmni cydweithredol ynni solar llwyddiannus yn y cyfamser (Egni Co-op), sydd wedi gosod paneli solar ar dros 100 o safleoedd o ysgolion i adeiladau cymunedol i fusnesau, gan ddod yn un o’r cwmnïau cydweithredol solar ar doeau mwyaf yn y DU.

 

Cynllun syml mewn theori yw codi fferm wynt i wneud arian drwy drydan, ond mae’n dal i fod yn rhywbeth prin, gyda llai na deg fferm wynt sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru, a phob un â thyrbin sengl.

 

Er bod gan ffermydd gwynt preifat gronfa gymunedol fel arfer, canfu ymchwil diweddar fod ffermydd gwynt sy’n eiddo i’r gymuned yn yr Alban yn cynhyrchu 34 gwaith y cyfoeth i bobl leol na ffermydd gwynt preifat.

 

Mae’r tyrbinau’n bwerus – dim ond blwyddyn ar ôl i’r tyrbinau gael eu codi, prynodd AAT adeilad yr ysgol gan ddefnyddio eu siec gyflog ynni gyntaf erioed, gan wneud cyfartaledd o £300k y flwyddyn, gan gynhyrchu tua 11,000,000KWh/blwyddyn – digon i gyflenwi tua 3,000 o gartrefi.

Trawsnewidiodd yr arian yr hen ysgol, a oedd yn dioddef o bydredd sych ag ymsuddiant. Mae eu prosiect blaenllaw bellach yn adnodd cymunedol poblogaidd iawn, wedi’i adeiladu gyda’r dyfodol mewn golwg.

 

Erbyn hyn, mae gan yr adeilad sydd yn 110 mlwydd oed baneli solar, gwres drwy bympiau gwres o’r ddaear, draeniad sy’n seiliedig ar natur sy’n ailgylchu dŵr glaw ar gyfer toiledau a dyfrio’r gerddi, ac mae wedi’i inswleiddio gan ddefnyddio corc naturiol, gyda’r nod o gadw costau rhedeg yn isel a sicrhau dyfodol yr adeilad am flynyddoedd i ddod.

Wedi’i holi am eu model ariannol, sy’n cronni arian ar gyfer prosiectau cymunedol, dywedodd Emily: “Mae’r gymuned wedi’i rhannu ar hyn o bryd; mae angen mwy o gysylltedd.

 

“Unigedd a llawer o broblemau iechyd meddwl o gwmpas, pryder a methu â chyfathrebu â phobl eraill – mae’n brif bwyslais ar yr hyn yr ydym am ei wneud, sef dod â phobl at ei gilydd.”

“Unigedd a llawer o broblemau iechyd meddwl o gwmpas, pryder a methu â chyfathrebu â phobl eraill - mae'n brif bwyslais ar yr hyn yr ydym am ei wneud, sef dod â phobl at ei gilydd.”

Emily Hinshelwood

Uno cymunedau

 

Yn aml yn cael ei gymharu â Glofa’r Tŵr, y pwll glo a brynwyd gan y gymuned yn y 90au, mae’r tîm yn gweld gwynt fel y ffynhonnell ynni newydd sy’n dod ag arian yn ôl i’r dyffryn ac yn helpu i uno cymunedau unwaith eto.

 

A dydyn nhw ddim yn bwriadu stopio yma – mae eu prosiect trydan cymunedol, sydd bellach wedi tyfu’n fenter ynni cymunedol, yn troi ei olygon at ei fenter nesaf: adfer tafarn sydd wedi cae, y New Star, a’i hailagor ar gyfer ddefnydd cymunedol – a gobeithio ychwanegu ychydig mwy o dyrbinau at eu fferm wynt i helpu ariannu’r gwaith.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Cyfle Swydd – Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth

Y nerth o ddod o hyd i dir cyffredin: Yr hyn a ddangosodd Cymru Together yn ystod yr etholiad

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.