fbpx

Llwyfannu Lleisiau Cymunedol dros Drawsnewid Hinsawdd Cyfiawn yng Nghymru

5 Mai, 2026
Gan Climate Cymru Ethnic Minorities Network

Ar 27 Mawrth, daeth Rhwydwaith Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru (CCEM) â sefydliadau lleiafrifoedd ethnig o bob cwr o Gymru at ei gilydd ar gyfer ymgynghoriad hinsawdd pwysig a oedd yn canolbwyntio ar gyflawni trawsnewidiad hinsawdd teg a chyfiawn yng Nghymru.

Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd go iawn pobl o dri maes, sef tai, trafnidiaeth ac amaethyddiaeth, sectorau allweddol wrth wraidd Wythnos Hinsawdd Cymru 2025. Rhannodd y cyfranogwyr y rhwystrau y mae cymunedau yn eu hwynebu wrth gael mynediad a llunio gweithredu hinsawdd ac amgylcheddol, gan drafod atebion presennol, a nodi beth sy’n rhaid digwydd nesaf.

Trwy roi’r lleisiau hyn yng nghanol y sgwrs, rydym yn herio’r dulliau presennol ac yn galw am drawsnewidiad hinsawdd sy’n gynhwysol, yn deg ac yn gweithio i bawb.

Ein nod yw sicrhau bod polisi hinsawdd yng Nghymru nid yn unig yn effeithiol, ond yn cael ei siapio gan gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli yn hanesyddol wrth wneud penderfyniadau. Mae’r sgyrsiau hyn ar sail ein eiriolaeth barhaus, wrth i ni weithio i droi blaenoriaethau cymunedol yn newid ystyrlon, dan arweiniad y gymuned.

Gallwch ofyn am yr adroddiad ymgynghori yma: ccem@climate.cymru

Eisiau ymuno â’r CCEM a gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed ac yn cyfrif? Ymunwch â’r rhwydwaith yma.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Pennod newydd i bensiynau Cymru: a fydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd?

Cyfle Swydd – Pennaeth Cyfathrebu a Newid Naratif

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.