Mock COP Cy

23 Medi, 2021

Does dim amheuaeth ein bod ni’n byw mewn cyfnod ansicr. Mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu newidiadau byd-eang digynsail, sy’n cynnwys y pandemig Covid-19 a’i effaith ar bopeth, o dechnoleg i gyflogaeth ac iechyd meddwl, y cynnydd mewn eithafiaeth, a’r newidiadau sy’n datblygu’n gyflym i’n hinsawdd.

Yn ystod astudiaethau a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld bod (67%) wedi mynegi pryderon am eu hiechyd meddwl hirdymor, o ganlyniad i gael eu cloi i lawr am gyfnodau hir o amser, ac mae 70% o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw’n dioddef problemau eco-bryder. Mae ein hieuenctid yn tyfu fyny mewn byd sydd â phroblemau sylweddol a chymhleth, a’r cwestiwn sylfaenol sydd yn peri trafferth iddyn nhw ydy: ydyn nhw’n barod i wynebu’r dasg o’u datrys? Ein cwestiwn fel y genhedlaeth hŷn yw: sut ydyn ni’n helpu?

I mi, mae pobl ifanc yng Nghymru yn fwy parod am y dasg nag y byddent yn meddwl.  Nid yn unig maen nhw’n cael y budd o fyw mewn gwlad sy’n deddfu i sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ond maen nhw’n dysgu hefyd, mewn system addysg fydd yn eu dysgu am faterion y byd ac am y pethau y gallwn eu gwneud i’w datblygu. Mae effaith Flynn yn disgrifio galluoedd pob cenhedlaeth i ragori ar wybodaeth y rheini maen nhw’n eu rhagflaenu, ac yn fy mhrofiad i o weithio gyda phobl ifanc, mae eu safbwyntiau yn berthnasol bob amser.

Ond mae’r cyfrifoldeb arnom ni, fel y cenedlaethau hŷn, i sicrhau bod ein hieuenctid yn gallu defnyddio eu lleisiau i wneud i newidiadau go iawn ddigwydd. Mae’n rhaid inni fod yn well am wrando ar bobl ifanc a dangos iddynt sut, pan fyddant yn gweithredu, “nad ydych chi fyth yn rhy ifanc i wneud gwahaniaeth (Greta Thunberg)”. Mae dysgu am faterion byd-eang yn hanfodol, ond heb roi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc i weld newid ystyrlon o ganlyniad, rydym yn eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl.

  • I mi, mae profiadau fel ein prosiect MockCOP (mewn partneriaeth â Maint Cymru), yn hanfodol i helpu pobl ifanc i ddatblygu llais ar faterion byd-eang, ac i gyflwyno’r llais hwnnw gerbron y rheini sy’n gwneud penderfyniadau.  Mae MockCOP yn ei hanfod yn Fodel y Cenhedloedd Unedig, lle mae gwahanol wledydd (sydd yn cael eu cynrychioli gan ysgolion ar draws Cymru) yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae pobl ifanc yn cynrychioli dirprwyaethau o wahanol wledydd, ac yn siarad gyda’i gilydd am faterion byd-eang gyda gwledydd eraill i weld os ydyn nhw’n gallu datrys eu problemau gyda’i gilydd.

Drwy gymryd rhan yn y broses hon, mae myfyrwyr yn dysgu am bŵer a thegwch, ac yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn cyfathrebu’n hyderus i wneud penderfyniadau. Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i drosglwyddo eu hargymhellion i gael eu cynnwys yn ein Papurau Polisi, ac yn mynd ymlaen i ymuno â’n Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, sef Grŵp Ieuenctid sy’n cymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd ar draws Cymru a thu hwnt.

Y rhan ryfeddol o’r profiad hwn yw clywed gan bobl sydd wedi bod drwyddo. Gofynnwyd yn ddiweddar i un o’n Llysgenhadon pam y dechreuodd ar ei thaith ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac atebodd drwy ddweud nag oedd hi erioed wedi meddwl amdano nes iddi ddechrau paratoi ar gyfer ei MockCOP cyntaf. “Mae’n ddoniol”, dywedodd “Pan ddechreuais i weld pethau’n digwydd oherwydd fi, doeddwn i ddim eisiau stopio gwneud iddyn nhw ddigwydd”. Mae’n ddisgrifiad mor glir o ddinasyddiaeth ac o’r pethau sydd angen i’n pobl ifanc ei glywed am y dyfodol maen nhw’n ei adeiladu – sef y gallant newid y byd gydag angerdd a dyfalbarhad.

Gall ysgolion a phobl ifanc gofrestru ar gyfer y digwyddiad MockCOP am ddim yma: 

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Mae un dref chwarelyddol yn prynu ei stryd fawr yn ôl, a’i rhoi i’r genhedlaeth nesaf

Llwyfannu Lleisiau Cymunedol dros Drawsnewid Hinsawdd Cyfiawn yng Nghymru

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.