Mock COP Cy
Does dim amheuaeth ein bod ni’n byw mewn cyfnod ansicr. Mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu newidiadau byd-eang digynsail, sy’n cynnwys y pandemig Covid-19 a’i effaith ar bopeth, o dechnoleg i gyflogaeth ac iechyd meddwl, y cynnydd mewn eithafiaeth, a’r newidiadau sy’n datblygu’n gyflym i’n hinsawdd.
Yn ystod astudiaethau a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld bod (67%) wedi mynegi pryderon am eu hiechyd meddwl hirdymor, o ganlyniad i gael eu cloi i lawr am gyfnodau hir o amser, ac mae 70% o bobl ifanc yn dweud eu bod nhw’n dioddef problemau eco-bryder. Mae ein hieuenctid yn tyfu fyny mewn byd sydd â phroblemau sylweddol a chymhleth, a’r cwestiwn sylfaenol sydd yn peri trafferth iddyn nhw ydy: ydyn nhw’n barod i wynebu’r dasg o’u datrys? Ein cwestiwn fel y genhedlaeth hŷn yw: sut ydyn ni’n helpu?
I mi, mae pobl ifanc yng Nghymru yn fwy parod am y dasg nag y byddent yn meddwl. Nid yn unig maen nhw’n cael y budd o fyw mewn gwlad sy’n deddfu i sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol, ond maen nhw’n dysgu hefyd, mewn system addysg fydd yn eu dysgu am faterion y byd ac am y pethau y gallwn eu gwneud i’w datblygu. Mae effaith Flynn yn disgrifio galluoedd pob cenhedlaeth i ragori ar wybodaeth y rheini maen nhw’n eu rhagflaenu, ac yn fy mhrofiad i o weithio gyda phobl ifanc, mae eu safbwyntiau yn berthnasol bob amser.
Ond mae’r cyfrifoldeb arnom ni, fel y cenedlaethau hŷn, i sicrhau bod ein hieuenctid yn gallu defnyddio eu lleisiau i wneud i newidiadau go iawn ddigwydd. Mae’n rhaid inni fod yn well am wrando ar bobl ifanc a dangos iddynt sut, pan fyddant yn gweithredu, “nad ydych chi fyth yn rhy ifanc i wneud gwahaniaeth (Greta Thunberg)”. Mae dysgu am faterion byd-eang yn hanfodol, ond heb roi’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc i weld newid ystyrlon o ganlyniad, rydym yn eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl.
- I mi, mae profiadau fel ein prosiect MockCOP (mewn partneriaeth â Maint Cymru), yn hanfodol i helpu pobl ifanc i ddatblygu llais ar faterion byd-eang, ac i gyflwyno’r llais hwnnw gerbron y rheini sy’n gwneud penderfyniadau. Mae MockCOP yn ei hanfod yn Fodel y Cenhedloedd Unedig, lle mae gwahanol wledydd (sydd yn cael eu cynrychioli gan ysgolion ar draws Cymru) yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae pobl ifanc yn cynrychioli dirprwyaethau o wahanol wledydd, ac yn siarad gyda’i gilydd am faterion byd-eang gyda gwledydd eraill i weld os ydyn nhw’n gallu datrys eu problemau gyda’i gilydd.
Drwy gymryd rhan yn y broses hon, mae myfyrwyr yn dysgu am bŵer a thegwch, ac yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, ac yn cyfathrebu’n hyderus i wneud penderfyniadau. Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i drosglwyddo eu hargymhellion i gael eu cynnwys yn ein Papurau Polisi, ac yn mynd ymlaen i ymuno â’n Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, sef Grŵp Ieuenctid sy’n cymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd ar draws Cymru a thu hwnt.
Y rhan ryfeddol o’r profiad hwn yw clywed gan bobl sydd wedi bod drwyddo. Gofynnwyd yn ddiweddar i un o’n Llysgenhadon pam y dechreuodd ar ei thaith ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac atebodd drwy ddweud nag oedd hi erioed wedi meddwl amdano nes iddi ddechrau paratoi ar gyfer ei MockCOP cyntaf. “Mae’n ddoniol”, dywedodd “Pan ddechreuais i weld pethau’n digwydd oherwydd fi, doeddwn i ddim eisiau stopio gwneud iddyn nhw ddigwydd”. Mae’n ddisgrifiad mor glir o ddinasyddiaeth ac o’r pethau sydd angen i’n pobl ifanc ei glywed am y dyfodol maen nhw’n ei adeiladu – sef y gallant newid y byd gydag angerdd a dyfalbarhad.
Gall ysgolion a phobl ifanc gofrestru ar gyfer y digwyddiad MockCOP am ddim yma:
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.