Pwy ydyn ni

Amdanom

Mae Climate Cymru yn fudiad o filoedd o unigolion a rhwydwaith o gannoedd o sefydliadau o bob sector yng Nghymru, wedi’u dwyn ynghyd gan werthoedd a rennir a chydnabyddiaeth bod angen gweithredu brys a theg ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Credwn y dylai gweithredu gael ei lywio gan wyddoniaeth a lleisiau pobl ledled Cymru.

Wedi’i gynnal gan Cymru Global, mae Climate Cymru yn tynnu ar brofiad Cymru Global o gysylltu pobl â materion byd-eang a throi pryder yn weithred ymarferol. Mae gweledigaeth ehangach Cymru Global, y gall pawb yng Nghymru gyfrannu at fyd tecach, mwy heddychlon, wrth wraidd sut mae Climate Cymru yn gweithredu.

Rydym yn gweithio mewn pedwar maes allweddol:

  1. Meithrin y Mudiad – Gwasanaethu, cysylltu, ysbrydoli, clirio rhwystrau a dysgu oddi wrth fudiad mawr ac amrywiol o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys cynnal ystod o
    grwpiau a mannau ymgynnull â themau benodol.
  2. Eiriolaeth – Gwleidyddiaeth, polisi ac ymgyrchoedd – gwaith ar y cyd dros Climate Cymru a chefnogi partneriaid i gyflawni eu nodau eirioli unigol.
  3. Cyfathrebu & Adrodd Straeon – Adeiladu seilwaith cyfathrebu, adrodd straeon, uwchsgilio’r mudiad a chyflawni gwaith newid naratif yn seiliedig ar werthoedd.
  4. Ecosystem cyllid – Amrywiaeth o ymyriadau i helpu i drwsio tirlun cyllid diffygiol i Gymru ac i’r mudiad.

Ein cenhadaeth

Mor gyflym â phosibl:   

  • Cymru sero net
  • Cymru natur-bositif
  • Cyfiawnder hinsawdd yng Nghymru ac yn rhyngwladol 
  • Y Gymdeithas yng Nghymru i gofleidio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Dylai’r newid i gyflawni’r nodau hyn fod yn gyfiawn ac yn deg, gan roi ystyriaeth briodol i amrywiaeth lleisiau ac anghenion pobl Cymru ac yn fwy cyffredinol, y rhai mwyaf agored i niwed ar draws y byd.

Ein hegwyddorion

Mae ein mudiad yn rhychwantu grwpiau o ddiddordeb o bob cefndir, sector a chornel o Gymru, ond mae’n cael ei ddwyn ynghyd gan ein hegwyddorion sylfaenol, y mae pob unigolyn, grwp, a sefydliad partner yn cytuno iddynt wrth ymuno:

Rydym yn cydnabod bod angen gweithredu’n deg ac ar frys mewn perthynas â’r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym yn credu y dylai gweithredu gael ei arwain gan wyddoniaeth a lleisiau pobl ar draws Cymru. 

Mae sefydliadau hefyd yn cytuno i’r 5 ffordd o weithio, a 7 nod deddf cenedlaethau’r dyfodol.

Ein Dull Gweithredu

  • Rhoi pwysau ar y rheini sydd â phŵer i weithredu’n gadarn.
  • Ymgysylltu’n gynhyrchiol â Llywodraeth Cymru.
  • Gwneud yn siŵr bod lleisiau o ar draws Cymru yn cael eu clywed a’u cynrychioli
  • Ysbrydoli a chysylltu ein rhwydwaith.
  • Ehangu a chyflymu gwaith ein partneriaid
  • Rhannu gwybodaeth bwysig a chyfleoedd gyda’n rhwydwaith a’r cyhoedd ehangach
  • Dysgu gan Gymdeithas yng Nghymru, a thu hwnt
  • Datblygu cefnogaeth gyhoeddus eang ar gyfer gweithredu
  • Cynrychioli lleisiau a sefydliadau Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Ein Heffaith

Ers i ni ffurfio yn 2021, mae rhwydwaith Climate Cymru wedi cael effaith sylweddol i roi hinsawdd, natur a chyfiawnder cymdeithasol ar yr agenda gwleidyddol yng Nghymru. Mae ein huchafbwyntiau yn cynnwys ein mudiad llwyddiannus Cymru Gyda’n Gilydd, ein prosiectau newid naratif ac adrodd straeon pwerus, a’n rhwydwaith o filoedd o bobl ledled Cymru i eirioli dros gyfiawnder hinsawdd teg a brys.

Am fwy o wybodaeth, gweler:
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.