Llythyr at Brif Weinidog newydd Cymru ynglŷn â chynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru gan Climate Cymru 

1 Mehefin, 2026
Gan Bethan Sayed

Llythyr at Brif Weinidog newydd Cymru ynglŷn â chynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru gan Climate Cymru 

Annwyl Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru,

Mandad dros weithredu. Cyflawni dros Gymru decach a gwyrddach.

Llongyfarchiadau mawr i chi ar eich penodiad fel Prif Weinidog Cymru. Mae hyn yn gamp aruthrol, ac rydym yn dymuno’n dda i chi yn eich rôl. Rydym hefyd yn nodi cyhoeddiad eich Cabinet newydd, ac yn croesawu Aelodau o’r Senedd i’w swyddogaethau Cabinet. Rydym yn ddiolchgar bod eich Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd AS, eisoes wedi estyn gwahoddiad i gyfarfod â ni yn ystod y 100 diwrnod cyntaf. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein syniadau ag ef maes o law.

Mae Climate Cymru yn croesawu egwyddor a phwrpas eich cynllun 100 diwrnod. Mae eich hymrwymiad i lywodraeth sy’n canolbwyntio ar bobl, sy’n agored, ac sy’n cydweithredu, yn adlewyrchu gwerthoedd ein mudiad ni. Rydym yn glymblaid o gannoedd o sefydliadau, busnesau, ac arweinwyr cymunedol sy’n unedig yn y gred bod y pwysau sy’n wynebu Cymru heddiw yn cyd-gysylltiedig, ac bod yr atebion hefyd yn cyd-gysylltiedig.

Rydych wedi etifeddu mandad ar adeg pan fo gofyniad clir am ffordd newydd o arwain- un sy’n blaenoriaethu gwrando gweithredol a phartneriaeth ddiffuant, yn hytrach na phenderfyniadau o’r brig yn unig. I wireddu eich gweledigaeth, mae gan eich gweinyddiaeth gyfle unigryw i hyrwyddo polisïau uchelgeisiol sy’n adlewyrchu natur gyd-ddibynnol yr heriau mae ein cymunedau yn eu hwynebu.

I weld Cymru tecach a gwyrddach yn y dyfodol, rhaid i’r hinsawdd a’n natur fod yn guriad calon polisi’r llywodraeth. Rydym yn pwyso arnoch i atgyfnerthu portffolio’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd trwy benodi Dirprwy Weinidog dros Natur ac Hinsawdd. Byddai’r rôl hon yn gallu pontio’r bwlch rwng polisi gwledig a gweithredu cenedlaethol ar yr hinsawdd, gan ddarparu’r goruchwyliaeth bwrpasol sydd ei hangen i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n tir, ein systemau bwyd, ein hiechyd, ac i’n cymunedau.

Cyn etholiad y Senedd, lansiwyd Cymru Together fel mudiad cynyddol o sefydliadau sy’n unedig yn ein galwad am Gymru decach, iachach mwy cyfartal. Cydweithrediad anwleidyddol ydyw, a drefnir gan Climate Cymru. Fe ddaethom at ein gilydd o gwmpas llythyr agored i bob plaid wleidyddol ar ein blaenoriaethau cyd-gysylltiol, wedi’i llofnodi gan 240 o sefydliadau. Gellir ei weld yma. Mae ein hymateb i’ch llwybr Llywodraethol wedi’i fframio drwy pileri Cymru Together. 

1. Gwneud bywyd yn decach

Mae eich cynllun yn gywir i nodi bod tlodi a chostau cynyddol yn parlysu teuluoedd. Rydym yn credu bod buddsoddi mewn cartrefi cynhesach ac egni rhatach, glanach yn fater o degwch sylfaenol.

  • Cartrefi a retroffit: Rydym yn pwyso arnoch i ddefnyddio eich adolygiad o’r Rhaglen Cartrefi Cynnes i symud tuag at fodel ôl-ffitio stryd-wrth-stryd a arweinir gan awdurdodau lleol. Trin effeithlonrwydd egni cartrefi fel blaenoriaeth seilwaith cenedlaethol yw’r ffordd mwyaf effeithiol o ostwng biliau, codi safonau byw, a chreu swyddi lleol ar yr un pryd. Sut  bydd eich llywodraeth yn sicrhau bod y rhaglen hon yn cael ei blaenoriaeth er mwyn cyrraedd pob cartref oer yng Nghymru, a pha fesurau penodol fydd ar waith i sicrhau nad yw’r aelwyddydd mwyaf anodd i gyrraedd yn cael eu gadael ar ôl?
  • Taclo tlodi: Rydym yn croesawu’r Peilot Taliad Plant (Cynnal) ac arlwy gofal plant uchelgeisiol. Fodd bynnag, er mwyn trawsnewid bywyd plentyn, mae angen i ni wella’r byd o’u cwmpas hefyd. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cartref cynnes sy’n rhad i’w wresogi, bwyd iach wedi’i dyfu yma yn ein cymunedau, a mannau gwyrdd diogel i chwarae ynddynt. Sut bydd eich llywodraeth yn sicrhau bod y taliadau hyn yn gweithio ochr yn ochr â’ch cynlluniau ar gyfer tai a natur, fel ein bod yn sefydlogi gwraidd achosion tlodi yn hytrach na helpu pobl i ymdopi ag ef yn unig?
  • Strategaeth fwyd genedlaethol: Rydym yn cefnogi’r gwaith tuag at Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd. Trwy sicrhau bod “plat cyhoeddus Cymru,” gan gynnwys ysgolion ac ysbytai, yn caffael cynnyrch maethlon, lleol, gallwn ddarparu dechrau decach i’r genhedlaeth nesaf tra’n cefnogi ein ffermwyr sy’n gyfeillgar i natur, a heriau sicrwydd bwyd hirdymor. Pa fesurau byddwch chi’n eu cyflwyno i fanteisio ar gaffael lleol a chyfeillgar i natur ar draws y sector cyhoeddus, a sut y byddwch yn sicrhau bod y strategaeth hon yn cynyddu fforddiadwyedd bwyd iach, lleol i deuluoedd ar incwm isel yn uniongyrchol?

2. Rhoi pŵer yn nwylo pobl

Rydych wedi addo gweithio gyda chymunedau, nid drostynt yn unig. Daw sefydlogrwydd gwirioneddol o berchnogaeth leol a sofraniaeth dros ein hadnoddau ein hunain.

  • Sofraniaeth egni: Rydym yn cefnogi eich bwriad i gyhoeddi cynlluniau i ddatblygu Trydan Gwyrdd Cymru yn un cwmni egni cenedlaethol cryfach. Er mwyn i hyn lwyddo, rhaid iddo fod yn eiddo i bobl Cymru, yn  llesol iddynt, gyda chylch gwaith clir i leihau biliau. Mae angen i Lywodraeth Cymru cydweithredu yn uniongyrchol â phrosiectau egni cymunedol. Sut byddwch yn sicrhau bod Trydan Gwyrdd Cymru yn gweithredu fel galluogwr i grwpiau egni lleol yn hytrach na chystadlu yn eu herbyn, a pha fecanweithiau fydd ar waith i gymunedau rannu yr elw a fydd yn cael eu creu gan brosiectau cenedlaethol?
  • Cyfoeth cymunedol: Gallai eich ymrwymiad i Gronfa Gyfoeth fod yn drawsnewidiol i gymunedau Cymru. Bydd y cynnig i ddal cyfran deg o elw o brosiectau adnewyddadwy yn rhan bwysig o hyn, ond teimlwn fod cyfleoedd ehangach gyda cronfeydd pensiwn Cymru, i alluogi datblygiadau egni cymunedol a chyllid natur, yn ogystal â chysoni ffrydiau cyllido eraill fel Cronfa Gymunedau Arfordirol Ystâd y Goron a’r cronfeydd cymunedol ar gyfer seilwaith trawsyrru. Rydym yn awyddus i weld y cronfeydd yn cael eu dosbarthu’n strategaethol gyda chyfran yn cael ei dyrannu a’i rheoli’n lleol, yn ddelfrydol ar asedau lleol, bod cyfran yn cael ei ddefnyddio yn rhanbarthol ar fentrau strategol fel ôl-ffitio tai, a chyfran yn genedlaethol ar fentrau sy’n cefnogi tẇf economaidd, fel sgiliau a hyfforddiant.
    • Mae’r Bil Hawl Cymunedol i Brynnu yn offeryn trawsnewidiol arall. Rhaid iddo rymuso pobl leol i gymryd rheolaeth dros asedau, o siopau’r stryd fawr, i dir ar gyfer tai cymunedol, sy’n cadw cyfoeth yn cylchredeg yn ein cymunedau, yn hytrach na chael ei echdynnu. Pa gamau byddwch yn cymryd i sicrhau bod gan gymunedau y cyfalaf a’r gefnogaeth dechnegol angenrheidiol i arfer yr hawl hon, a sut y byddwch yn atal yr asedau hyn rhag cael eu colli i ddatblygwyr preifat yn ystod y cyfnod trawsnewidol?
  • Cydweithredu ystyrlon: Mae rhannu pŵer yn golygu mai’r rhai sy’n byw’r realiti yw’r rhai dylai dylunio’r atebion. Rydym yn gofyn i chi ddod â lleisiau i’r bwrdd sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml: ieuenctid, cymunedau mudol, ynghyd a phobl sydd ag anableddau. Yn eich 100 diwrnod cyntaf, sut byddwch yn symud y tu hwnt i ymgynghori traddodiadol ac yn sefydlu rôl ffurfiol, barhaus i’r lleisiau hyn ym mhrosesau penderfynu craidd Swyddfa newydd y Cabinet?

3. Adfer natur i bawb

Nid “pethau ychwanegol” yw afonydd glân, pridd iach, a bywyd gwyllt llewyrchus, maent yn hanfodol i’n hiechyd, ein sicrwydd bwyd, a’n heconomi.

  • Llwybr strategol newydd: Rydym wedi ein calonogi gan eich hymrwymiad i ddechrau gwaith ar Gynllun Gweithredu ar yr Hinsawdd a Natur i Gymru, sy’n canolbwyntio ar fapio llwybr ymarferol i sero net erbyn 2040, ac adferiad natur sylweddol erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y targedau hyn, bydd blaenoriaethu llym yn hanfodol. Sut bydd eich Cabinet yn sicrhau bod y blaenoriaethau hirdymor hyn yn cael eu hamddiffyn rhag pwysau gwleidyddol byrdymor, ac a fyddwch yn ffurfioli proses i gynnwys yr arweiniad a’r arbenigedd o fewn Cymru Together i’ch helpu i lywio hwn?
  • Ffermio gyda natur wrth y llyw: Rydym yn croesawu’r newid i gyllid aml-flwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. I adfer natur i bawb, rhaid i’r cynllun hwn roi adferiad natur ar y rheng flaen. Rydym yn credu mai ffermwyr yw prif warcheidwaid ein tirwedd, a rhaid eu cefnogi i gynhyrchu bwyd cynnaliadwy mewn ffordd sy’n mynd ati i adfer ein hecosystemau, ac adeiladu gwytnwch. Mae hyn yn gofyn am ddiwylliant newydd o gydweithredu, lle mae’r sector amaethyddol yn gweithio law yn llaw â’r sectorau amgylcheddol a chymunedol. Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hwyluso’r bartneriaeth hon, i sicrhau bod perthynas dda yn cael ei meithrin ar atebion rhanedig yn y maes yma, sy’n gadarnhaol i natur?

Solidariaeth Fyd-eang

Fel Cenedl Noddfa, mae gan Gymru rôl unigryw i’w chwarae ar lwyfan y byd. Rhaid i’n hymdrech dros ddyfodol tecach a gwyrddach gwreiddio mewn undod byd-eang, gan gydnabod bod ein gweithredoedd cartref, o’r nwyddau yr ydym yn eu bwyta, i’r egni yr ydym yn ei gynhyrchu, yn effeithio ar gymunedau ledled y byd. Rydym yn pwyso arnoch i sicrhau, wrth i Gymru arwain ar weithredu dros yr hinsawdd, ein bod yn parhau i sefyll gyda’r rhai sydd ar rheng flaen yr argyfwng hinsawdd byd-eang.

Ein partneriaeth: Troi uchelgais yn realiti

Ni ddylid tanamcangyfrif rôl sefydliadau cymdeithas sifil sy’n rhan o rwydwaith Climate Cymru. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, roedd polau piniwn yn nodi’n gyson bod pobl ar draws Cymru yn cefnogi gweithredu cryfach ar yr hinsawdd a natur. Mae grwpiau cymdeithas sifil yn chwarae rôl hanfodol wrth droi’r mandad cyhoeddus hwn yn syniadau polisi ymarferol, wedi’u seilio ar brofiad a thystiolaeth gymunedol. Gallant helpu i bontio’r bwlch rwng uchelgais y llywodraeth a disgwyliadau’r cyhoedd, gan sicrhau bod polisïau yn parhau i fod yn ymatebol, yn gynhwysol, ac wedi’u gwreiddio yn realiti’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf.

Er ein bod yn croesawu eich hymrwymiad i dryloywder, rydym hefyd yn barod i weithredu fel cyfaill beirniadol, gan graffu ar gyflawniad yn erbyn addewidion cyn-etholiadol, i sicrhau bod blaenoriaethau’r llywodraeth yn troi’n welliannau diriaethol ym mywydau pob dydd pobl Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at allu drefnu cyfarfod cynnar â chi, i drafod sut y gall arbenigedd cyfunol ein rhwydwaith helpu i gyflawni’r Gymru tecach a mwy gwydn yr ydym oll am weld.

I orffen,  byddwn yn dilyn y llythyr hwn gyda gwybodaeth fanwl ar wahân ar ein syniadau polisi ar faterion penodol i Weinidogion perthnasol y Cabinet, gan gydnabod agenda drawsbynciol y maes hwn. Gobeithiwn fod mewn cyfathrebu rheolaidd â chi a’ch tîm wrth i’r tymor fynd rhagddo.

Yn gywir,

Bethan Sayed, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, Climate Cymru

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Mae un dref chwarelyddol yn prynu ei stryd fawr yn ôl, a’i rhoi i’r genhedlaeth nesaf

Llwyfannu Lleisiau Cymunedol dros Drawsnewid Hinsawdd Cyfiawn yng Nghymru

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.