Cyfle Swydd – Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth

16 Gorffennaf, 2026

Prif amcan y Pennaeth Eiriolaeth yw cryfhau uchelgais wleidyddol ac awydd cymdeithasol am weithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru, gan sicrhau bod polisïau hinsawdd uchelgeisiol a theg yn parhau i fod yn hyfyw yn wleidyddol ac yn cael eu cefnogi gan y cyhoedd yn ystod cyfnod o bolareiddio gwleidyddol cynyddol.

Bydd y rôl yn cynnwys cyflawni system gydgysylltiedig o ymyriadau sydd wedi’u dylunio i gryfhau cyfreithlondeb cyhoeddus dros weithredu, cydgysylltu eiriolaeth gyda mudiadau Cymru a’r DU, ochr yn ochr â gwella ansawdd y disgwrs cyhoeddus a gwleidyddol ar newid hinsawdd yng Nghymru. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys arweinydd strategol ar yr ymgyrch Cymru Gyda’n Gilydd, yn ogystal ag agweddau penodol ar gyflawni, gan gynnwys rhywfaint o waith polisi sy’n berthnasol i genhadaeth Climate Cymru.

Bydd y rôl hon yn arwain tîm eiriolaeth Climate Cymru ac yn eistedd ar grŵp arweinyddiaeth uwch ochr ein tri arweinydd tîm arall. Bydd y rôl yn cynnwys rheoli cyfeiriad strategol y gwaith gwleidyddiaeth, polisi ac ymgyrchoedd, wrth hwyluso cydweithrediad a chysylltiad â phrif feysydd gwaith eraill Climate Cymru er mwyn sicrhau gwaith ar y cyd effeithiol.

Cliciwch yma am y disgrifiad swydd llawn, a sut i wneud cais.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i 5yh, 17eg Awst, oherwydd nad oes staff ar gael dros wyliau’r haf.  Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais, diolch am eich amynedd.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

RHAID I GYMRU BERCHNOGI EI DYFODOL YNNI GLÂN, MEDD CLIMATE CYMRU WRTH Y SENEDD

Gost garbon rhyfel: Allyriadau nwyon tŷ gwydr o weithgarwch milwrol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.