Ymateb llythyr agored: Ynglŷn â gohebiaeth ddiweddar â Phwyllgorau’r Senedd
Rydym wedi gwneud y penderfyniad i gyhoeddi’r llythyr isod fel datganiad cyhoeddus. Fe’i hysgrifennwyd mewn ymateb i weithgarwch cyfryngau cymdeithasol negyddol diweddar ynglŷn â’n cyfathrebu â’n cynrychiolwyr etholedig newydd. Nid yw’r cynnwys cyfryngau cymdeithasol y cyfeirir atynt wedi’i gynnwys yn y cyhoeddiad hwn gan nad ydym am hyrwyddo’r wybodaeth anghywir ynddo.
Fel sefydliad sy’n cynnwys dros 400 o grwpiau amrywiol o bob cwr o Gymru, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig bod yn dryloyw gyda’n hymateb i’r cynnwys hwn, mewn ymgais i ddal y rhai sy’n hyrwyddo cynnwys ffug a allai fod yn niweidiol i’r gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud gan gymaint yng Nghymru, i gyfrif.
Ymddygiad aelod ac ymgysylltu democrataidd gyda Climate Cymru
Annwyl James Evans AS,
Rydym yn ysgrifennu atoch yn rhinwedd eich swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig i godi pryder ynghylch ymddygiad un o aelodau’r pwyllgor, Andrew RT Davies AS. Rydym hefyd yn anfon copi o hwn at Lywydd y Senedd, sydd â throsolwg o waith pwyllgorau’r Senedd.
Yn ddiweddar, cysylltodd Climate Cymru â chi fel Cadeirydd y pwyllgor mewn ysbryd proffesiynol ac adeiladol i drafod yr heriau amgylcheddol ac economaidd brys a beunyddiol sy’n wynebu pobl ledled Cymru. Fe wnaethom anfon copi at holl aelodau’r pwyllgor er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’n diddordeb mewn cefnogi gwaith y pwyllgor.
Er na chawsom unrhyw ymateb uniongyrchol i’n negeseuon e-bost gan Mr. Davies, mae wedi cyhoeddi datganiadau ar y llwyfannau X a Facebook yr hoffem dynnu eich sylw atynt (wedi’u hatodi yn yr ychwanegiad). Mae’r datganiadau hyn nid yn unig yn mynd ati i danseilio’r weithred democrataidd o anfon gohebiaeth at ein cynrychiolwyr etholedig, ond maent hefyd yn hyrwyddo gwybodaeth anghywir am bartneriaeth Climate Cymru a bwriad ein gohebiaeth.
Mae’n egwyddor sylfaenol bod pwyllgorau yn hygyrch i’r cyhoedd ac i gymdeithas sifil. Credwn ei bod yn swyddogaeth bwysig o ddemocratiaeth i sefydliadau deimlo bod ganddynt yr hyder a’r gallu i ymgysylltu â phwyllgorau’r Senedd. Teimlwn bod y negeseuon a bostiwyd gan Mr Davies, yn ei rinwedd fel aelod o bwyllgor, yn tanseilio hyder y cyhoedd i wneud hynny yn y dyfodol.
Yn y datganiadau cyhoeddus hyn, anwybyddodd Mr Davie y materion craidd a godwyd gan ein partneriaeth. Dewisiodd gwneud datganiadau anghywir yn gyhoeddus am natur ein gwaith, a gynlluniwyd, i bob golwg, i ysgogi polareiddio’r mater, yn hytrach na meithrin trafodaeth ystyrlon.
Mae Climate Cymru yn glymblaid sy’n cynrychioli dros 400 o sefydliadau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys grwpiau cymunedol, sefydliadau ffydd, elusennau a busnesau. Ein hawl ni fel dinasyddion, a’n prif gyfrifoldeb fel Climate Cymru, yw anfon e-byst, ymgysylltu, a chyflwyno tystiolaeth i’r Senedd ac i’w phwyllgorau. Ymhell o fod yn orchymyn, fel mae datganiad cyfryngau cymdeithasol Mr. Davies yn ei awgrymu, rydym yn bwriadu hwyluso deialog ystyrlon rhwng y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r cyhoedd ar faterion o bwys cenedlaethol hollbwysig.
Mae’r gwaith rydym yn ei wneud yn seiliedig ar ymgysylltiad democrataidd cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau fel trefnu digwyddiadau i ddod â channoedd o etholwyr o bob rhan o Gymru yn uniongyrchol i Fae Caerdydd i gael trafodaethau ystyrlon, adeiladol, wyneb yn wyneb â’u cynrychiolwyr etholedig – digwyddiad lle siaradodd cyd-aelod Mr Davies, Janet Finch Saunders AS, ar banel gerbron ystafell lawn o ddinasyddion brwdfrydig. Yn ogystal, mae yna fenter ‘Cymru Together’, a ysgogodd gannoedd o grwpiau llawr gwlad i eiriol dros atebion cyffredin. Atebion sy’n diogelu pobl gyffredin, megis prosiectau ynni sy’n eiddo i’r gymuned, gwaith ôl-ffitio tai ar raddfa fawr i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac amaethyddiaeth sy’n gyfeillgar i natur.
Anfonwyd ein gohebiaeth yn ddidwyll i drafod yr argyfyngau gwirioneddol a diriaethol sy’n effeithio ar fywydau pobl gyffredin yng Nghymru heddiw, gan gynnwys amlder cynyddol llifogydd difrifol, gwres haf sy’n dwysáu, costau yswiriant a bwyd sy’n codi, a dirywiad byd natur. Materion o bwys mawr yw’r rhain sy’n galw am graffu gwleidyddol a chyhoeddus aeddfed sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Gobeithiwn fod Mr Davies, a holl aelodau’r pwyllgor, wedi ymrwymo i’r broses o gynnwys cymdeithas ddinesig yn y broses ddemocrataidd, ac na fydd cyfathrebiadau cyhoeddus yn y dyfodol yn tanseilio’r broses hon ymhellach.
Mae ein cynnig o gyfarfod cychwynnol yn dal i sefyll, i gefnogi eich rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor. Diolch i chi am eich amser wrth sicrhau bod pwyllgorau’r Senedd yn parhau i fod yn fannau tryloyw, croesawgar a pharchus ar gyfer cyfranogiad cymdeithas sifil.
Yr eiddoch yn gywir,
Sam Ward
Pennaeth Climate Cymru
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llais
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.