fbpx

Grŵp Ethnig Lleiafrifol Climate Cymru (CCEM)

Mae grŵp Ethnig Lleiafrifol Climate Cymru yn grŵp annibynnol, a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2001 gan unigolion sydd hefyd yn Llysgenhadon Climate Cymru.

Cofrestrwch i’r grŵp fel unigolyn.

Cofrestrwch eich sefydliad i’r grŵp.

Amdanyt

Mae grŵp Ethnig Lleiafrifol Climate Cymru yn grŵp  annibynnol, a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2021 gan unigolion sydd hefyd yn Llysgenhadon Climate Cymru. 

Mae’r grŵp yn darparu llwyfan ar gyfer unigolion a gweithwyr amgylcheddol proffesiynol o darddiad ethnig lleiafrifol sydd yn byw yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn adeiladu eu rhwydwaith mewn eiriol dros yr hinsawdd o amgylch cyfiawnder hinsawdd a materion cysylltiedig.

Mae’r grŵp yn ceisio symbylu diddordebau unigolion a gweithwyr proffesiynol o gymunedau ethnig lleiafrifol, a rhoi llais i gymunedau ethnig lleiafrifol i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd eiriolaeth lleol, rhanbarthol a chymunedol a hefyd, cymryd rhan mewn cyrsiau datblygiad proffesiynol yn y sector amgylcheddol yn y DU.

Yr Angen

Mae yna brinder o aelodau o’r gymuned ethnig leiafrifol yn sector yr Amglychedd a’r Hinsawdd yn y DU, ac nid oes data ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y ffigyrau hyn yng Nghymru. O ystyried profiadau bywyd rhai o’r aelodau cyfansoddol presennol – lle mai ni fel arfer ydy’r unig rai sy’n bresennol fel yr ‘amrywiaeth’ yn yr ystafell, ni allwn ond dychmygu bod y gwerth yn llawer llai erbyn hyn.  

Mae’r grŵp CCEM wedi cael ei ffurfio o ganlyniad i’r angen i arddangos argaeledd gweithwyr proffesiynol amgylcheddol a hinsawdd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig o darddiad ethnig lleiafrifol sydd yn byw yng Nghymru, trwy ddarparu llwybr i’r unigolion hyn ddod at ei gilydd, trafod, adeiladu ein rhwydweithiau a rhannu adnoddau. Ein nod yw bod yn grŵp adnoddau bywiog.

Amcanion

  • Adeiladu rhwydwaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol yr amgylchedd a’r hinsawdd ac eiriolwyr sy’n tarddu o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
  • Creu gwelededd i weithwyr proffesiynol yr amgylchedd a’r hinsawdd ac eiriolwyr sy’n tarddu o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Gweithredu

Ar hyn o bryd mae’r grŵp CCEM yn cael ei gynnal gan Climate Cymru.

Mae CCEM yn cynnal llwyfannau rhithwir, gan gynnwys rhestr bostio Google Group i gefnogi cyfathrebu ymhlith aelodau, cynllunio cydweithredol, a diweddariadau ar gyfranogiad a chydweithredu. Mae yna hefyd grŵp WhatsApp ar gyfer cyfathrebu cyflym a brys.

Os hoffech fod yn rhan o blatfform CCEM, cwblhewch y ffurflen gofrestru uchod i’w hychwanegu at y rhestr bostio a’r grŵp WhatsApp.

Cysylltu

Ar hyn o bryd mae gweithgareddau’r grŵp yn cael eu cydlynu gan gydlynydd cymunedol. Cysylltwch â: ccem@climate.cymru

 

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.