Fforwm Arfordirol Sir Benfro – flwyddyn yn ddiweddarach

14 Medi, 2022
Gan Alex Cameron-Smith

Gan: Alex Cameron-Smith – Cydgysylltydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Fforwm Arfordirol Sir Benfro

Ers yr Wythnos Fawr Werdd Fawr y llynedd, mae FASB wedi bod yn cyflawni amryw o brosiectau addasu hinsawdd, gan gynnwys:

  • Defnyddio ein teclyn arloesol gardiol mewn gweithdai ysgol er mwyn penderfynu pa effeithiau newid hinsawdd sydd bwysicaf i fyfyrwyr, a pha gamau y maent am eu gweld yn eu hardal leol.
  • Gweithio gyda phobl ledled Sir Benfro mewn partneriaeth â Netherwood Sustainable Futures er mwyni cynhyrchu Strategaeth Addasu Hinsawdd pum-mlynedd gyntaf erioed y Sir.
  • Hwyluso cyfres o grwpiau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Cynllun Addasu Arfordirol Niwgwl, gan sicrhau bod lleisiau, syniadau a phryderon lleol yn rhan o ymateb ein Sir i arfordir sy’n newid.

Ar yr ochr liniaru, mae PCF hefyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a Dêl Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer ein mentrau datgarboneiddio. Mae Ynni Morol Cymru wedi recriwtio aelodau newydd o’r tîm i helpu i roi hwb i wynt arnofiol ar y môr yn y Môr Celtaidd, ac mae’r Ardal Prawf Ynni Morol – canolfan gyntaf Cymru a’r unig ganolfan i brofi technoleg adnewyddadwy morol – hefyd wedi creu pedair swydd leol arall.

Mae FASB wedi bod yn bartner Climate Cymru ers 2020, gan helpu i rannu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o’r rôl bwysig y gall arfordiroedd a chefnforoedd ei chwarae mewn dyfodol cynaliadwy, a meithrin gallu ar gyfer gweithredu ar raddfa ehangach. Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni!

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Llythyr at Brif Weinidog newydd Cymru ynglŷn â chynllun 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Cymru gan Climate Cymru 

Mae un dref chwarelyddol yn prynu ei stryd fawr yn ôl, a’i rhoi i’r genhedlaeth nesaf

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.