Mae un dref chwarelyddol yn prynu ei stryd fawr yn ôl, a’i rhoi i’r genhedlaeth nesaf

10 Mai, 2026
Gan Debbie Luxon

Dywedodd swyddog rygbi Joseff Edwards ei fod wedi ei “daro” gan y nifer o bobol ifanc oedd ar strydoedd ym Mlaenau Ffestiniog gyda’r nos yn y gaeaf – gofynnodd i ble roedden nhw’n mynd a bydden nhw’n dweud “efallai’r chwarel” neu “Co-op”.

“Pan nad oes ganddyn nhw unman i fynd, dyna pryd mae problemau’n codi”

Joseff Edwards, Sylfaenydd clwb ieuenctid

Yn 2022, sefydlodd Joseff, 30 oed o’r Bala, glwb ieuenctid i roi lle iddyn nhw fynychu, ac ym mis Ionawr eleni, symudodd y clwb i ofod pwrpasol newydd, Yr Aelwyd – ac mae eisoes yn cael effaith aruthrol.

Mae Kacey, 16, wedi bod yn mynychu CIC (Clwb Ieuenctid Cristnogol – Christian Youth Club) ers ei bod hi’n 12: “Roeddwn i’n ymladd efo pobl ac mewn helynt gyda’r heddlu yn aml, ond ers i mi ddod yma, dydw i ddim. Mae’n braf peidio â chael heddlu wrth fy nrws.

“Mae’r Aelwyd yn amgylchedd diogel i ni ddod i ymlacio, mae'n cadw ni rhag bod adref yn ffraeo gyda’n rhieni.”

Kacey, Person ifanc

Dywedodd Joseff fod y lleoliad canolog newydd yn denu mwy o bobl ifanc nag erioed: “Ers symud, rydyn ni’n aml yn denu 80-100 – mae’n galonogol iawn ac yn dangos yr angen.

 

“Roedden ni wedi gweld disgyniad mewn niferoedd yr hogiau hŷn, ond nawr maen nhw wedi dod yn ôl. Mae’n gynnes, yn olau, yn groesawgar, mae’n cyfleu gwerth iddyn nhw, a dydyn nhw ddim yn cael hynny’n aml.”

 

Yn ddiweddar dyfarnodd Heddlu Gogledd Cymru grant i CIC i gydnabod eu gwaith.

Tra bod llawer o drefi yn y gogledd yn cael eu difetha gan berchenogaeth ail gartrefi, mae Blaenau, gyda 392 o ail gartrefi ymhlith llai na 4,000 o drigolion, yn newid y llanw drosto’i hun.

 

Yr Aelwyd yw’r diweddaraf mewn cyfres o eiddo sy’n cael eu prynu a’u huwchraddio i safon uchel gan y gymuned.

 

Ar un adeg mi oedd yn rhan o Gymru a oedd yn ‘toi’r byd’, defnyddir geiriau fel ‘difreintiedig’ i ddisgrifio’r ardal yma sy’n gyfoethog mewn adnoddau naturiol, sydd wedi’u defnyddio i wneud elw mewn mannau eraill, o lechi i ynni dŵr i dwristiaeth.

 

Dywedodd Ceri Cunnington, gweithiwr datblygu menter gymdeithasol Cwmni Bro Ffestiniog, yn wyneb y cloddio hanesyddol hwn, “dylen ni fod yn un o’r trefi cyfoethocaf yn y byd… Yn ddiwylliannol, rydyn ni.”

Yn 2007, dechreuodd y gymuned ar genhadaeth i gadw perchnogaeth ac elw yn lleol, gan harneisio refeniw o dwristiaeth trwy adeiladu parc beicio mynydd, Antur Stiniog.

Mae’r incwm hwn, ynghyd â grantiau a benthyciadau, yn cael ei ddefnyddio i brynu adeiladau gwag, eu gwneud yn gynnes ac yn ynni-effeithlon, a’u dychwelyd i’r gymuned fel unedau busnes â phrydles resymol, efo llety fforddiadwy uwchben, fel y gall pobl ifanc fforddio aros a gwneud bywoliaeth.

 

Trwy ddefnyddio’r parc beiciau ac incwm rhent, mae’r economi gylchol hon wedi dod â chaffi a chanolfan dwristiaeth, siop sglodion, siop nwyddau caled, swyddfeydd ar rent efo fflatiau uwchben, a chanolfan ieuenctid, i gyd dan berchnogaeth gymunedol. Ar hyn o bryd, mae dau adeilad arall yn cael eu hadnewyddu.

“Gweld y goleuadau ymlaen a chlywed sŵn 105 o blant yn mwynhau’r gofod yw’r hyn sy’n bwysig. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â rhoi lle haeddiannol i bobl ifanc fod yn rhan o’r gymuned… gobeithio ei fod yn rhoi ymdeimlad o bwrpas iddyn nhw ac yn dangos ein bod ni’n hidio.”

Ceri Cunnington, Gweithiwr datblygu

Roedd yr Aelwyd yn dioddef o leithder a llwydni, gan ddod yn ddrud i’w gwresogi. Enillodd Antur Stiniog arian trwy Gyngor Gwynedd i uwchraddio hen adeilad yr Urdd gydag inswleiddiad, gwydr triphlyg, paneli solar, pympiau gwres sy’n defnyddio aer a system adfer gwres awyru diolch i ymgynghorydd effeithlonrwydd ynni, Elfed Lewis.

 

Mae’r adeilad bellach yn ased i’r dref fel gofod cynnes sy’n rhad i’w redeg ac sydd yn amcangyfrif i ddefnyddio hyd at 75% llai o ynni, a gallai ddod yn ofod oer yn yr haf, gan chwarae rhan yng ngwydnwch y gymuned yn erbyn tlodi yn wyneb biliau ynni cynyddol a newid hinsawdd.

 

Dywedodd Elfed fod y gwaith hwn yn hollbwysig i leihau costau cynnal a chadw yn y dyfodol: “Wrth adnewyddu adeilad, mae’n bwysig gwneud y costau rhedeg mor isel â phosib fel bod y gymuned yn gallu fforddio i’w redeg. Gallwch gael arian i wneud i’r adeilad edrych yn neis, ond os na allwch ei gynhesu, does neb yn mynd i fod eisiau dod.”

Ar hyd y stryd fawr, mae yna dal ffenestri caeedig, ond mae yna oleuadau hefyd ymlaen mewn sinema di-elw, hostel a gofod perfformio, gwesty sy’n cael ei redeg gan bobl ag anableddau, tafarn sy’n eiddo i’r gymuned, ynghyd ag elusen ieuenctid digartref, clwb ceir trydan sy’n cael ei redeg gan y gymuned, grŵp lles amgylcheddol a chymdeithasol, canolfan gymorth a banc bwyd, a chwmni opera, gyda’i gilydd yn cyflogi dros 200 o bobl ag asedau cymunedol gwerth £5m.

 

Dywedodd Ceri, sy’n uno’r mentrau hyn trwy Gwmni Bro: “Mae hen fodelau economaidd wedi ein methu – rydym yn cymryd perchnogaeth ac yn ailddiffinio’r hyn y mae stryd fawr yn ei olygu, gan edrych arni yn ei chyfanrwydd. Bellach mae gennym y dwysedd uchaf o fentrau cymdeithasol drwy’r DU. Y syniad cyfan yw cydweithio, rhannu adnoddau, arbenigedd a rhoi pwysau lle mae angen.”

 

Mae Blaenau Ffestiniog dal yn ‘tlawd’ ac yn cael ei nodi yn uchel ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ond ymhlith y rhai sy’n gweithio ym myd datblygu cymunedau, mae Blaenau wedi dod yn symbol o rym y bobl.

 

Mae eu hymdrechion i feithrin perthyn yn eu hieuenctid yn gweithio, meddai Kacey: “Yr Aelwyd yw ein hail gartref fwy neu lai – rydyn ni’n deulu, gyda’n gilydd. Mae pawb yn poeni, nid yn unig am yr adeilad ond am y bobl.”

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Llwyfannu Lleisiau Cymunedol dros Drawsnewid Hinsawdd Cyfiawn yng Nghymru

Pennod newydd i bensiynau Cymru: a fydd yn adlewyrchu ein gwerthoedd?

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.