Dychmygwch Weithredu
Adeiladu pŵer naratif dros newid
Manylion
Dychmygwch Weithredu yw prosiect newid naratif a chyfathrebu blaenllaw Climate Cymru, sydd wedi’i gynllunio i helpu cymunedau i weithio gyda’i gilydd i newid y sgwrs ar weithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru. Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae Dychmygwch Weithredu yn cydnabod bod cyfathrebwyr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yn gweithredu mewn tirwedd gyfathrebu fwyfwy rhanedig a gwenwynig. Mae llawer yn cysylltu â’u cymunedau ar lawr gwlad heb fawr o hyfforddiant, cyllid neu adnoddau. Mae ein dull yn canolbwyntio ar ddefnyddio pŵer gwerthoedd fel offer ar gyfer datpolareiddio, gan ddechrau o bwynt cysylltiad yn hytrach na gwrthdaro neu ddadl.
Pecyn Hyffordiant Dychmygwch Weithredu
Mae Dychmygwch Weithredu yn helpu unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru i gyfathrebu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig; creu straeon cymhellol sy’n ein huno ac yn ail-ddychmygu dyfodol y gallwn ei greu gyda’n gilydd. P’un a ydych chi’n ymgyrchydd, artist, arweinydd ffydd, addysgwr, neu’n aelod gweithgar o’ch cymuned, mae’r platfform ymgysylltu hwn yn ein hannog i siarad o’r hyn rydyn ni’n ei werthfawrogi, gwrando yn ofalus, a helpu ni i lunio dyfodol i Gymru sy’n cynnwys pawb.
I ddysgu mwy am y dull Dychmygwch Weithredu, gallwch ymuno neu drefnu sesiwn pecyn hyfforddi. Gellir cwblhau’r pecyn hyfforddi Dychmygwch Weithredu ar-lein, fel seminar 1 awr, neu weithdy hanner diwrnod.
E-bostiwch communications@climate.cymru os hoffech i ni gyflwyno sesiwn hyfforddi am ddim ar gyfer eich grŵp, sefydliad neu weithle, neu os ydych chi’n awyddus i gofrestru ar gyfer sesiwn wedi’i drefnu ymlaen llaw.
Ebostiwch i gysylltu:Adrodd straeon
Ar draws ein cenedl, mae pobl eisoes yn brysur yn creu’r dyfodol yr ydym i gyd yn ei haeddu. O gydweithfeydd bwyd a chanolfannau cymunedol, i brosiectau ynni lleol a mentrau ailwylltio – rydym eisoes yn plannu hadau dyfodol tecach a charedig i’n plant a’n hwyrion.
Gan weithio gyda phartneriaid Climate Cymru, ‘the Local Storytelling Exchange’ a ‘Round Our Way’, rydym yn hyrwyddo’r arwyr bob dydd yn y wasg, ein cylchlythyr, ac ar draws ein sianeli digidol. Rydym yn dangos sut mae datrysiadau hinsawdd eisoes yn digwydd ac yn adeiladu ymdeimlad bod gweithredu hinsawdd go iawn wedi’i wreiddio mewn gofal, tegwch a chymuned.
Ebostiwch i gysylltu:
Cymunedau Creadigol Climate Cymru
Mae Dychmygwch Weithredu yn cydnabod pwysigrwydd creadigrwydd, chwilfrydedd a chwarae. Yng Nghymru, mae diwylliant a threftadaeth wrth wraidd pwy ydym ni fel pobl. Mae barddoniaeth, cerddoriaeth, dawns a chelf wedi cael eu defnyddio trwy gydol hanes i ymhelaethu ar ein lleisiau cymunedol ac adrodd straeon am ein cysylltiad â’r tir a natur. Os ydych chi’n artist sy’n gweithio gyda phynciau hinsawdd neu gyfiawnder cymdeithasol, rydym am glywed gennych! Gallwch ymuno â’n rhwydwaith cynyddol o bobl greadigol o bob cwr o Gymru i weithio ar y cyd a rhannu cyfleoedd.
Ebostiwch i gysylltu:Cyfarfodydd Ddiwylliannol Ffair Cymru
Ledled Cymru, mae traddodiad hir o ofalu am ein gilydd a llunio ein dyfodol ar y cyd. I ddathlu’r traddodiad hwn, fe wnaethom bartneru â Fête Prydain i gynnal dau gynulliad diwylliannol o gelf, cerddoriaeth a sgyrsiau, gan ddod â phobl at ei gilydd i ddychmygu a chreu ffordd well o fyw.
Digwyddiadau Ffair Cymru sydd i ddod
- Ffair Cymru Wrecsam, Dydd Sadwrn 19eg Medi.
Os hoffech gymryd rhan neu fynychu, anfonwch e-bost atom i gael gwybod mwy.
Ebostiwch i gysylltu:Ffair Cymru Abertawe
Roedd Ffair Cymru Abertawe, y digwyddiad Fête Prydain cyntaf erioed yng Nghymru, yn ddiwrnod llawn barddoniaeth, gweithdai celf, seremoni te Tsieineaidd, sgiliau syrcas, sgyrsiau hinsawdd a llawer, llawer mwy.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.