fbpx

Natur Bositif

Mae natur yn dirywio'n ddifrifol. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, sy’n golygu, pan fydd pobl ifanc heddiw yn hŷn, y gallai rhai o rywogaethau mwyaf eiconig cefn gwlad Cymru eisoes fod wedi’u colli am byth.

Ymgyrch Natur Bositif

Rydym wedi ymrwymo i feithrin ecosystemau llewyrchus yng Nghymru ac yn fyd-eang drwy ein hymgyrch ‘Natur Bositif’. Yn syml, ein nod yw sicrhau, erbyn 2030, y bydd mwy o natur yng Nghymru, ac yn y byd, nag yn 2020 – gydag adferiad parhaus y tu hwnt i hynny. Ein nod yw gweld cynnydd mewn bioamrywiaeth a chynefinoedd llewyrchus o’i gymharu â heddiw. Trwy ‘Natur Bositif’, ein nod yw diogelu a gwella iechyd a chynefinoedd rhywogaethau, sicrhau afonydd a nentydd glân ac iach, a hyrwyddo arferion bwyd ac amaethyddol cynaliadwy.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi llusgo ei draed. Mae byd natur a chymunedau Cymru yn parhau i ddioddef o ganlyniad.

Rydym yn eirioli dros fesurau deddfwriaethol clir sy’n ymgorffori ymrwymiad i Gymru Natur Bositif, gyda thargedau cyfreithiol rwymol sy’n sicrhau dyfodol tecach i’n cymunedau a’r amgylchedd. Er mwyn cynnal ei henw da fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur, rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil eleni, yn rhaglen ddeddfwriaethol 2024-25, sef:

  • Ymgorffori ymrwymiad i Gymru Natur Bositif yn y gyfraith, wedi’i danategu gan dargedau adfer natur sy’n rhwymo’n gyfreithiol.
  • Sicrhau cyfiawnder amgylcheddol i bobl Cymru drwy sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol.

Gyda’n gilydd, gallwn feithrin cymunedau grymus gyda economïau lleol ffyniannus, a lle mae natur yn ffynnu er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Ydych chi erioed wedi teimlo’n unig wrth ofalu am natur neu wrth ofalu am newid yn yr hinsawdd? Mae’r ffilm hon ar eich cyfer chi!

Mae ‘Cysylltiad’ yn rhaglen ddogfen natur fer sy’n archwilio straeon Cymreig am Obaith, Natur a Chysylltiad.

Roedd y ffilm yn ymdrech gydweithredol enfawr gan lawer o sefydliadau partner Climate Cymru. Roedd llawer o’r partneriaid hyn yn darparu lluniau trawiadol o dirweddau, fflora a ffawna Cymru, ac yn rhannu eu hatgofion natur.

Roedd cyfweliadau â’r cyhoedd yn gwbl ddigymell, lle gofynnwyd y cwestiynau i’r cyfranogwyr: “Beth yw eich hoff atgof plentyndod o fod ym myd natur?” a “Pa atgofion natur hoffech chi eu rhoi i genedlaethau’r dyfodol?”. Roedd y cyfweliadau hyn yn amgylchynu Cymru gyfan, o Gaerdydd i Gaergybi.

Roedd gan bob un gofion natur hyfryd ag awydd dwfn i genedlaethau’r dyfodol i brofi profiadau tebyg.

Nod Cysylltiad yw amlygu a dathlu’r ymdrechion rhyfeddol a’r arwyr di-glod o bob rhan o Gymru, gan ysbrydoli newid naratif tuag at ymgysylltu â dinasyddion a gobaith am yfory mwy disglair.

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.