Eiriolaeth
Manylion
Mae tîm Eiriolaeth Climate Cymru yn dwyn ynghyd bartneriaid cymdeithas sifil, arbenigwyr a lleisiau ar lawr gwlad i ddylanwadu ar bolisi, dal y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif, a sbarduno newid systemig ledled Cymru.
Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gydag aelodau ac arweinwyr lleol, datganoledig a etholedig y DU i sicrhau bod polisi hinsawdd wedi’i seilio ar gyfiawnder cymdeithasol, cartrefi cynnes, aer glanach, ac economïau lleol bywiog. Drwy bontio’r bwlch rhwng cymunedau rheng flaen a gwaith ein Senedd ym Mae Caerdydd, mae ein tîm yn ceisio troi uchelgais ar lawr gwlad yn realiti, gan fynnu arweinyddiaeth feiddgar sy’n amddiffyn ein pobl ac yn darparu dyfodol gwydn i Gymru.
Gweler ein mudiadau, ymgyrchoedd a gweithredoedd cyfredol isod!
Cymru Gyda’n Gilydd
Mae Cymru Gyda’n Gilydd yn fudiad cynyddol o sefydliadau sy’n unedig yn ein galwad am Gymru decach, iachach a mwy cyfartal. Cyn etholiad Senedd 2026, rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i amlinellu cynlluniau clir ac ymarferol i wella bywydau a chryfhau ein cymunedau.
Ein tair prif flaenoriaeth yw:
- Rhoi’r pŵer yn nwylo pobl
- Sicrhau bywyd tecach
- Adfer natur i bawb
Hwb Polisi
Os ydych chi’n ymuno fel partner, bydd gennych fynediad i’n Hwb Polisi, lle rydym yn cyfarfod bob mis i drafod cyfleoedd polisi ac eiriolaeth sydd ar ddod. Yn y gorffennol, mae aelodau Climate Cymru a’r Hwb Polisi wedi cymryd rhan ym marchnadoedd y Senedd, wedi ymateb i ymgynghoriadau, wedi trefnu cyfarfodydd gydag aelodau’r Senedd ac wedi mynychu cynadleddau gwleidyddol. Cofrestrwch eich grŵp neu fusnes fel partner gan ddefnyddio’r botwm isod os hoffech ymuno â’r Hwb Polisi!
Ymunwch fel partner yma:
Uchafbwyntiau
Mae Climate Cymru wedi bod yn rhan o lawer o fudiadau, ymgyrchoedd a digwyddiadau dros y blynyddoedd.
Cymerwch olwg ar ein tudalen uchafbwyntiau i weld yn union beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud!
Am fwy o wybodaeth, gweler:We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.