Sicrhau y clywir eich disgyblion gan ein harweinwyr
Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn bygwth dyfodol eich disgyblion. Maent yn wynebu’r realiti o fywydau fel oedolion mewn byd gwahanol a heriol iawn.
Ond mae 2021 yn cynnig gobaith am ddyfodol gwell. Ym mis Tachwedd, bydd arweinwyr y byd yn dod ynghyd ar gyfer Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig gyda dyfodol ein cymunedau yn eu dwylo. Mae angen i ni ddangos ein bod yn ofalgar.
Anfonwch negeseuon gan eich dosbarth neu gymned i’n harweinwyr a byddwn yn sicrhau y cânt eu clywed yn COP26 a thu hwnt. Gallwch ychwanegu un neges a gytunwyd gan y dosbarth cyfan, neu restr o negeseuon. Gall y negeseuon sôn am yr hyn y mae’r disgyblion eisiau eu amddiffyn a’i weithredu dros yr hinsawdd yr hoffent ei weld yng Nghymru, y DU a’r byd.
Byddwn yn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed yn COP26 a chan wneuthurwyr penderfyniadau yng Nghymru a’r DU.

Ychwanegu eich dosbarth
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.